S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Swyddi

Arweinydd Marchnata Digidol

Yn S4C, rydyn ni'n angerddol am greu amgylchedd gwaith positif, egnïol a chynhwysol sy'n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd:

Ar Dy Orau, Balch o S4C, Dathlu pawb, Cer Amdani.

Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â'n tîm wrth arwain a gweithredu strategaeth hyrwyddo ddigidol i helpu tyfu cynulleidfaoedd a chodi proffil S4C a'i chynnwys ar amrywiaeth o blatfformau. Wrth weithio'n ehangach ar draws y timoedd marchnata, brand a chreadigol bydd y rôl yn gyfrifol am arloesedd digidol yn y maes. Rydym yn chwilio am unigolyn sydd yn angerddol am gynnwys S4C ac yn frwdfrydig i greu sŵn a denu cynulleidfaoedd newydd i holl blatfformau'r sianel.

Trosolwg y Swydd

Bydd yr Arweinydd yn cefnogi'r Pennaeth Marchnata, gan ddirprwyo yn ôl yr angen, tra'n arwain tîm o swyddogion marchnata profiadol o ddydd i ddydd. Byddwch yn gyfrifol am weithredu'r strategaeth hyrwyddo ar gyfer sianeli cyfryngau taledig ac organig ac yn creu strategaethau cyfryngau taledig a yrrir gan ddata gan weithio ochr yn ochr ag asiantaethau allanol S4C i wneud y gorau o'r gyllideb a chyrraedd cynulleidfaoedd mor eang â phosib. Gan weithio'n agos gyda thimau Digidol, Cyfathrebu, Brand a Chreadigol S4C bydd disgwyl i'r Arweinydd helpu sicrhau ymgyrchoedd unedig a llwyddiannus, gan fesur perfformiad ar draws amrywiol sianeli cyfryngau taledig.

Ynghyd â'r Pennaeth Marchnata, byddwch yn gyfrifol am osod cyfeiriad clir i'r gwaith hyrwyddo er mwyn ymateb i'r heriau digidol sy'n wynebu'r sector ddarlledu. Bydd disgwyl i'r Arweinydd seilio unrhyw strategaethau hyrwyddo a thactegau cynulleidfaoedd aml-lwyfan ar fewnwelediadau dwfn a dealltwriaeth o'r amgylchedd i newid canfyddiadau cynulleidfaoedd, gan gydweithio gyda'r Tîm Ymchwil i sicrhau hyn.

Bydd gennych sgiliau marchnata, brand a digidol cryf gyda'r profiad a'r gallu i osod amcanion, gyrru canlyniadau a rhoi strategaeth ar waith. Yn ddadansoddol, yn strategol, ac yn fedrus iawn o ran sut i roi mewnwelediadau ar waith, byddwch yn gweithredu gydag angerdd a dealltwriaeth o arloesedd cyfryngau a digidol. Byddwch yn rheolwr profiadol gyda chefndir cryf o gyfathrebu a marchnata gyda'r gallu i ddatblygu cynlluniau integredig sy'n cynyddu ymgysylltiad.

Mae'r rôl hon yn eistedd o fewn yr Adran Marchnata, Cyfathrebu ac Ymchwil ond yn allweddol i'r cydweithio agos gyda'r Tîm Digidol a Chyfryngau Cymdeithasol ar ymgyrchoedd integredig.

Manylion Eraill

Lleoliad: Caerfyrddin / Caerdydd / Caernarfon (o leiaf 2 diwrnod mewn swyddfa)

Cyflog: £49,000-£55,000 y flwyddyn

Oriau Gwaith: 35¾ yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.

Cytundeb: Parhaol

Cyfnod Prawf: 6 mis

Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau.

Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.

Ceisiadau

Dylid anfon ceisiadau erbyn 12.00 ar ddydd Iau 29 Mai 2025 trwy lenwi'r ffurflen gais yma.

Nid ydym yn derbyn CV.

Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Manylion Swydd

Ffurflen Gais

Ffurflen Monitro Cydraddoldeb

Pecyn Gwybodaeth

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?