13 Mehefin 2025
Dymuna S4C estyn cydymdeimlad gyda theulu Richard Longstaff o Ddinbych a fu farw ddoe, 12fed Mehefin.
13 Mehefin 2025
Tafwyl yw un o wyliau cerddoriaeth, diwylliannol a Chymraeg mwyaf Cymru, a bydd modd gweld llwyth o arlwy yr ŵyl o Barc Bute, Caerdydd ar S4C.
Bydd yr arlwy drydanol yn cael ei darlledu ar nos Sadwrn, 14 Mehefin ac ar y nos Sul, 15 o Fehefin.
11 Mehefin 2025
Bydd S4C yn darlledu pencampwriaeth Cwpan Dartiau'r Chwe Gwlad yn fyw o Ferthyr Tudful ym mis Mehefin, gan nodi darllediad dartiau byw cyntaf y sianel.
6 Mehefin 2025
Mae cyfres newydd Hansh (sianel ddigidol S4C i bobl ifanc), Ar Led, yn dinoethi rhai o'r pynciau poethaf ym myd rhyw a rhywioldeb. Bydd y gyfres gyfan ar gael i wylio fel bocset ar S4C Clic, BBC iPlayer a sianel YouTube Hansh o ddydd Gwener, 6 Mehefin, ymlaen.
5 Mehefin 2025
Yn cynnwys cyfweliadau pwerus gan arwyr Cymru fel Gareth Bale, Aaron Ramsey a Ben Davies, a rheolwyr megis Craig Bellamy, Brendan Rodgers a Roberto Martínez.
4 Mehefin 2025
Mae S4C yn falch o gyhoeddi cyfres o newidiadau strategol a phenodiadau newydd i adlewyrchu ffocws cynyddol y sianel ar ffrydio a chynnwys digidol. Wrth i dirwedd y cyfryngau barhau i esblygu, mae'r Darlledwr Gwasanaeth Cyhoeddus (DGC) a'r unig sianel deledu Cymraeg, yn cymryd camau i ymateb i anghenion newidiol eu cynulleidfaoedd ac i wneud y gorau o'r cyfleoedd yn y byd digidol.
2 Mehefin 2025
Bydd cyfres newydd sbon ar S4C yn taflu golau ar ddyfeisgarwch ac ysbryd entrepreneriaid Cymru o'r byd bwyd a diod.
Mae Busnes Bwyd, fydd ymlaen ar ddydd Mawrth, 4 Mehefin am 9pm, yn dilyn chwech o gynhyrchwyr lleol nodedig wrth iddynt fynd benben i geisio ennill £5,000 a mentoriaeth arbenigol er mwyn cymryd eu mentrau i'r lefel nesaf.
28 Mai 2025
Mae S4C wedi cyhoeddi bydd Y Llais yn dychwelyd yn gynnar yn 2026 ac mae'r her i ddarganfod talent fawr nesaf Cymru yn dechrau heddiw gyda cheisiadau ar agor yn syth.
28 Mai 2025
Mae S4C wedi talu teyrnged i'r pianydd a'r cyfeilydd Annette Bryn Parri