S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Pecyn y Wasg W36: 3 Medi - 9 Medi

1. Sgwrs Dan Y Lloer

Mae Elin Fflur yn ôl ac yn sgwrsio dan y lloer gyda rhai o wynebau mwyaf adnabyddus Cymru. Mae'r gyfres newydd yn dechrau gyda'r actores Bethan Ellis Owen.

TX: Nos Lun 5 Medi 8.00, S4C

2. Lorient 2022

Cyfle i gamu i mewn i ŵyl Geltaidd mwya'r byd a phrofi rhai o'r perfformiadau cerddorol, yn ogystal â rhai o'r gweithgareddau diwylliannol eraill y mae'r ŵyl yn cynnig.

TX: Nos Sul 4 Medi 9.00 S4C

3. Cefn Gwlad

Hanes y contractwr amaethyddol Aneurin Jones a gollodd ei law mewn damwain ond sydd â bywyd prysur iawn.

TX: Nos Lun 5 Medi 9.00, S4C

HEFYD

Pobol y Cwm

Be' sy'n digwydd yng Nghwmderi?

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?