S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Lansio Cystadleuaeth Carol y Nadolig S4C 2007

15 Awst 2007

 Lansiwyd Cystadleuaeth Carol y Nadolig 2007 gan S4C a’r Daily Post ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Yr Wyddgrug.

Gwahoddir cyfansoddwyr a darpar gyfansoddwyr i gynnig am y wobr o £1,000 yn y gystadleuaeth – y nawfed i gael ei chynnal yn flynyddol.

Perfformir y garol a ddaw i’r brig yn y gyngerdd Mil o Leisiau’r Nadolig a gynhelir ym Mhafiliwn Rhyngwladol Llangollen, cyngerdd a noddir gan y Daily Post ac a ddarlledir ar S4C dros gyfnod y Nadolig.

Daw cyfansoddwyr tair o’r carolau buddugol hyd yma yng nghystadleuaeth S4C o ardal Abertawe, gyda’r tri arall yn dod o Lan Conwy, Llandudno a Chaerwysg yn Nyfnaint.

Medd Rob Nicholls, Golygydd Cynnwys Diwylliant S4C, “Mae’r gystadleuaeth hon yn mynd o nerth i nerth. Rydym yn disgwyl nifer fawr o geisiadau eleni eto.

“Mae’r gystadleuaeth yn rhoi cyfle arbennig i S4C gyfrannu at arlwy gerddorol y Nadolig ac yn rhoi sylw i gyfansoddwyr a chantorion yn ystod yr ŵyl. Bydd perfformiad cyntaf y garol fuddugol ar lwyfan sy’n adnabyddus drwy’r byd – llwyfan y pafiliwn rhyngwladol yn Llangollen mewn cyngerdd fydd yn cael ei ddarlledu ar S4C.”

Arweinydd y canu ar y noson arbennig honno fydd Alwyn Humphreys a’r cyflwynwyr fydd Robin Jones a Branwen Gwyn.

Mae’r gystadleuaeth yn agored i gyfansoddwyr o bob oed, boed yn unigolion neu yn grwpiau. Fe ddylai’r geiriau a’r gerddoriaeth fod yn wreiddiol. Gall fod yn garol Gymraeg neu Saesneg. Dyddiad cau’r gystadleuaeth yw 28 Medi, ac fe dderbynnir ceisiadau ar gasét, DAT, disg-mini, CD neu lawysgrif (rhaid cael copi o’r geiriau wedi’u teipio).

Anfonwch eich carol, gyda’r ffurflen gais wedi ei harwyddo at –

Cyfathrebu

S4C

Parc Tŷ Glas

Llanisien

Caerdydd

CF14 5DU

NODYN I’R GOLYGYDD:

Prif reolau’r gystadleuaeth yw:

Rhaid i’r geiriau a’r gerddoriaeth fod yn wreiddiol a’r garol heb ei pherfformio

Gall y geiriau fod yn y Gymraeg neu’r Saesneg

Derbynnir cynigion ar dâp casét, dat, mini-disg, cryno-ddisg neu lawysgrif (rhaid cael copi o’r geiriau)

Dyddiad cau: 28 Medi, 2007

NODIADAU PELLACH:

Un o’r caneuon Nadolig cynharaf y gwyddys amdani yw can o’r bedwaredd ganrif, ‘Jesus refulsit omnium’, a gyfansoddwyd gan Sant Hilary o Poitiers.

Y garol Gymraeg gyntaf y gwyddys amdani yw ‘Ar Fore Dydd Nadolig’ sy’n dyddio o’r 16eg ganrif pan roedd Cymru yn wlad Babyddol.

Yn ystod y 12fed ganrif, cyflwynywyd carolau Nadolig yn ffurfiol i wasanaethau eglwysig gan Sant Francis o Assisi.

Gwaharddwyd carolau rhwng 1649 a 1660 yn Lloegr gan Oliver Cromwell a gredai y dylai Nadolig fod yn ddiwrnod o ddifrifoldeb.

Daw’r gair carol o’r hen air Ffrengig ‘caroller’, sy’n golygu dawnsio o amgylch cylch. Daw o’r Lladin ‘choraula’ a daw yn ei dro o’r iaith Roeg, ‘choraules’.

Ysgrifennwyd un o’r carolau mwyaf adnabyddus, ‘Dawel Nos’, yn 1818 gan offeiriad o Awstria, Joseph Mohr, i’w chanu i gyfeiliant y gitâr gan fod organ yr eglwys wedi torri ac nid oedd yn bosib ei thrwsio erbyn Dydd Nadolig.

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?