S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Lleisio barn am S4C a’r byd darlledu

20 Mehefin 2007

Bydd panel o uwch swyddogion S4C yn bresennol yn Ysgol Botwnnog, Pen Llŷn, nos yfory (Iau, 21 Mehefin) o 7.00pm ymlaen i glywed barn pobl yr ardal am y Sianel.

Bydd John Walter Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C, y corff sy’n goruchwylio’r Sianel, yn ymuno â’r Prif Weithredwr, Iona Jones, i ateb cwestiynau.

Cynhelir y Noson Gwylwyr ar amser pwysig i’r byd darlledu. Mewn dwy flynedd bydd y newid i deledu digidol yn digwydd ac mae technolegau newydd yn chwyldroi'r ffordd mae pobl yn mwynhau eu hoff raglenni.

Mae S4C, a enillodd wobr deledu Ewropeaidd y Rose D’Or yn ddiweddar am y gyfres ddrama, Con Passionate, ar hyn o bryd ar ganol ymgynghoriad cyhoeddus i lansio sianel Gymraeg ar wahân i blant.

Mae S4C hefyd yn edrych ymlaen at arlwy gyffrous dros yr haf. Bydd y Sianel yn darlledu o brif ddigwyddiadau diwylliannol y wlad, gan gynnwys Sesiwn Fawr Dolgellau, yr Eisteddfod Genedlaethol yn Sir y Fflint a Gŵyl y Faenol Bryn Terfel.

Meddai John Walter Jones, "Mae gwrando ar farn y cyhoedd yn bwysig i ni a chyfarfod pobl wyneb-yn-wyneb yw'r ffordd orau i fesur barn a chael y darlun cyflawn.”

Mae'r Noson Gwylwyr yn un o bedwar cyfarfod cyhoeddus a gynhelir gan S4C bob blwyddyn mewn gwahanol ardaloedd o Gymru. Fel yn ei holl gyfarfodydd cyhoeddus, bydd cyfarpar cyfieithu ar gael. Darperir lluniaeth ysgafn. Am ragor o wybodaeth am Noson Gwylwyr S4C, cysylltwch â Gwifren Gwylwyr S4C ar 0870 600 4141.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?