S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2006

10 Gorffennaf 2007

Mae Awdurdod S4C heddiw (Dydd Mawrth, 10 Gorffennaf) wedi cyflwyno ei Adroddiad Blynyddol a Datganiad Cyfrifon 2006 gerbron y Senedd.

Meddai Cadeirydd S4C, John Walter Jones: “Fe welwyd nifer o newidiadau pwysig dros y flwyddyn wrth i S4C barhau i baratoi ar gyfer y newid i ddigidol. Mae’r pwyslais yn Strategaeth Rhaglenni S4C ar ragoriaeth greadigol yn dwyn ffrwyth, gyda’r ffigurau gwylio yn tanlinellu hynny.”

Dywedodd Mr Jones mai un o’r newidiadau mwyaf pellgyrhaeddol a gymeradwywyd gan yr Awdurdod o bosib oedd adolygu gwasanaethau plant a sefydlu sianel newydd Gymraeg i gwrdd â’u hanghenion. Mae’r argymhellion ar gyfer sianel newydd i blant ar hyn o bryd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus.

Fe aeth paratoadau S4C ar gyfer y newid i ddigidol rhagddynt o dan arweiniad

Prif Weithredwr S4C, Iona Jones, gydag S4C yn ehangu argaeledd ei rhaglenni i amrediad o lwyfannau digidol.

Yn 2006, roedd yna nifer o newidiadau trefniadol allweddol, a oedd yn cynnwys sefydlu arwahanrwydd rhwng yr Awdurdod a strwythur gweithredol S4C, sydd bellach dan lyw Bwrdd Cyfarwyddwyr newydd. Fe arwyddodd S4C a’r BBC gytundeb partneriaeth strategol sy’n golygu y bydd cyfraniad y BBC i raglenni yn y dyfodol yn cael ei integreiddio i strategaeth rhaglenni S4C.

Ymhlith uchafbwyntiau rhaglenni oedd nifer o ddigwyddiadau graddfa fawr, gyda thros 1.2 miliwn o wylwyr yn troi i mewn i wylio darllediadau S4C o wyliau’r haf. Un digwyddiad mawr arall o bwys oedd y cyngerdd Jones Jones Jones a dorrodd record byd yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd ym mis Tachwedd.

Mae cyflwyno Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon S4C i’r Senedd yn ofynnol o dan Ddeddf Ddarlledu 1990.

Mae’r Adroddiad Blynyddol 2006 ar gael ar-lein, s4c.co.uk/adroddiadblynyddol2006 a gellir ei lawrlwytho ar ffurf PDF. Mae modd hefyd cael copi caled ar gais.

Am fwy o fanylion, cysylltwch â Gwydion Lyn neu Owain Pennar 029 20 741452 neu 029 20741416.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?