S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyngerdd Carreras yn fyw ar S4C

11 Gorffennaf 2007

Fe fydd S4C yn darlledu cyngerdd y tenor byd-enwog José Carreras o bafiliwn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn fyw ac yn ecsgliwsif ar y Sianel nos Sul, 15 Gorffennaf.

Morgan Jones fydd yn cyflwyno’r darllediad ar noson ola’r ŵyl wrth inni weld y tenor byd-enwog o Farcelona yn perfformio am y tro cyntaf erioed yn Llangollen.

Yn y cyngerdd, a ddarlledir yn unig ar S4C, bydd Carreras yn dilyn ôl traed ei gyd-denoriaid enwog o blith y Tri Thenor, Luciano Pavarotti a Placido Domingo, sydd wedi ymddangos yma yn y gorffennol.

“Fi yw’r ieuengaf o’r tri thenor ac felly mae’n naturiol mai fi yw’r olaf i ddod yma,” meddai mewn cyfweliad arbennig ar gyfer darllediad S4C, a gynhyrchir gan gwmni Opus TF.

“Ond o ddifri,” meddai, “dwi wrth fy modd o gael canu yng Nghymru, am fod gan y Catalaniaid a’r Cymry ryw nodwedd debyg. Mae gennym yr awydd parhaol i barchu ein hunaniaeth a’n traddodiadau, ac yn hyn o beth, rydym yn teimlo’n agos iawn ac felly mae’n rhoi llawer o bleser imi allu canu yng Nghymru.”

Bydd Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru a’r côr arobryn Serendipity dan arweiniad Tim Rhys Evans yn ymuno â Carreras ar y llwyfan. Hefyd yn ymddangos yn y cyngerdd mae’r pianydd Lorenzo Bavaj a’r ensemble Los Calchakis o’r Andeas.

Mae’r rhaglen yn binacl ar wythnos o ddarlledu gan S4C o lwyfan a maes yr Eisteddfod yn Llangollen. Yn ogystal â’r darllediad byw o gyngerdd Carreras, bydd Nia Roberts yn cyflwyno cystadleuaeth Côr y Byd yn fyw nos Sadwrn, 14 Gorffennaf.

Yng nghystadleuaeth Côr y Byd, bydd enillwyr y corau yng nghategorïau Cymysg, Siop Barbwr a Siambr a chorau’r merched a’r meibion yn perfformio yng nghyngerdd nos Sadwrn yn yr Eisteddfod Ryngwladol. Yn y cyngerdd bydd un ohonynt yn ennill teitl mawreddog Côr y Byd a thlws Pavarotti gan dîm o feirniaid rhyngwladol.

Llangollen 07

Côr y Byd, Nos Sadwrn, 14 Gorffennaf, 8.20pm, S4C

Isdeitlau Saesneg ar gael

Cyngerdd José Carreras yn Fyw o Langollen, nos Sul, 15 Gorffennaf, 8.30pm

Isdeitlau Saesneg ar gael

s4c.co.uk/haf07

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?