S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Caryl yn perfformio yn ei milltir sgwâr

02 Awst 2007

 Rhythm yw’r enw ar gyngerdd agoriadol Eisteddfod Sir y Fflint 2007, sioe fawreddog sydd â’r gantores amryddawn Caryl Parry Jones a llu o wynebau adnabyddus eraill o’r ardal yn perfformio ynddi.

Yn ymuno â Caryl a’r Band ar lwyfan y pafiliwn fydd y ddeuawd, Piantel, yr unawdydd offerynnau taro, Dewi Ellis Jones, Côr Hŷn Ieuenctid Sir y Fflint, Cantorion Colin Jones a Dawnswyr Nantgarw.

Huw Llywelyn Davies, Alwyn Humphreys a Sara Gibson fydd yn cyflwyno holl fwrlwm yr achlysur, gydag S4C yn dangos y cyfan yn fyw nos Wener, 3 Awst fel rhan o’i darllediadau cynhwysfawr o’r Brifwyl.

Wrth feddwl am berfformio yn ei milltir sgwâr, mae Caryl, sy’n enedigol o bentref Ffynnongroyw ac sydd hefyd yn adnabyddus fel actores a chyflwynydd, yn edrych ymlaen at y sialens.

“Mae hi wastad yn bleser i fynd yn ôl i Sir y Fflint am ddau reswm,” meddai. “Mae’r ardal a’r bobl yn agos iawn at fy nghalon ac mae’r gynulleidfa bob tro yn ymateb yn dda ac yn frwdfrydig i’r perfformiadau.

“Mae’n grêt fod yr Eisteddfod yn dod i Sir y Fflint oherwydd mae hi fel arfer yn ardal sy’n cael ei hanwybyddu oherwydd y camargraff ei bod yn ardal Seisnigaidd. Nid dyma’r achos - mae yna lawer o Gymreictod yma o hyd ac ma’ hiwmor a chymuned glos diwydiant y glofeydd yn byw yma - er bod y pyllau wedi hen ddiflannu!”

Mae Caryl wedi cyhoeddi chwe albwm yn ystod ei gyrfa lwyddiannus fel cantores, ac mae hi’n parhau i ganu, cynhyrchu a rhoi cyngor a hyfforddiant llais i gystadleuwyr ar raglenni megis WawFfactor.

Eleni hefyd, cafodd Caryl ei henwi’n Fardd Plant Cymru 2007-8 yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gâr, rôl sydd â’r nod o godi proffil barddoniaeth ymysg yr ifanc a'u hannog i ysgrifennu a mwynhau cerddi.

Yn ogystal â’r cyngerdd mae nifer o brosiectau eraill ar y gweill gan Caryl yn ystod wythnos yr Eisteddfod.

“Dwi’n beirniadu’r unawd allan o sioe gerdd gyda Robert Arwyn a dwi wir yn edrych ‘mlaen at glywed y perfformiadau eleni. Hefyd byddaf ym mhabell y dysgwyr gyda’r actor Llŷr Evans yn beirniadu amryw o gystadlaethau, o sgetsys i lefaru a chanu. Ar ddiwedd yr wythnos fe fyddai’n ymddangos ar Faes C. Fe ges i lawer o hwyl yn perfformio yno’r llynedd yn Eisteddfod Abertawe ac felly rwy’n edrych ymlaen at eleni,” ychwanega Caryl.

Eisteddfod Genedlaethol Sir Fflint a’r Cyffiniau: Cyngerdd Agoriadol

Nos Wener, 3 Awst, 8.00pm, S4C

Isdeitlau Saesneg ar gael

Cynhyrchiad BBC Cymru ar gyfer S4C

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?