S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Dudley yn dod â blas yr Eidal i Gymru

20 Medi 2007

 Fe fydd y cogydd teledu adnabyddus Dudley Newbery yn dod â blas yr Eidal i Gymru yn ystod yr hydref, wrth iddo ymweld â gwyliau bwyd ledled y wlad.

Bydd y cogydd yn dangos sut i wneud pob math o ddanteithion o’r Eidal – gan gynnwys pesto cartref, risotto a ravioli - wrth iddo hyrwyddo'i gyfres deledu newydd, Casa Dudley, a ddarlledir ar S4C yn fuan.

Yn y gyfres, a ffilmiwyd yn y Cantina Tabarrini yn Umbria, ardal o'r Eidal sy'n enwog am ei bwydydd, bydd yn rhaid i wyth o gogyddion amatur gorau Cymru gyflawni gwahanol gampau yn y gegin, dan oruchwyliaeth Dudley. Fesul diwrnod, bydd y cogyddion sy'n methu'r her yn hel eu pac am Gymru, gan adael un enillydd yn y pen draw.

Mae'r gyfres yn dilyn llwyddiant Chez Dudley y llynedd, a ffilmiwyd ar leoliad mewn ysgol goginio yn ardal Provence, Ffrainc. Bydd enillydd Chez Dudley, Jan Wilson Jones o Ruthun yn cyflwyno arddangosfeydd bwyd ei hun yn ystod Gŵyl Fwyd Ynys Môn.

Meddai Dudley Newbery, “Mae'r Eidal yn baradwys i'r rheiny sy'n dwlu ar fwyd. Mae cuisine ardal Umbria yn seiliedig ar draddodiadau teuluol - mae'n cyfuno bwydydd ffres naturiol gyda chynnyrch cartref lleol.

“Wy'n edrych ymlaen yn fawr at ymweld â'r gwyliau bwyd, lle bydd cyfle i aelodau'r cyhoedd roi tro ar flasu gwahanol brydau o'r Eidal.”

Mae'r daith yn cychwyn ym Mhenybont (Medi 20 a 21), cyn symud at Arberth (Medi 22 a 23), Hwlffordd (Medi 28), Canolfan Garddio Casgwent (Medi 29), Riverside, Caerdydd (Medi 30), Merthyr Tudful (Hydref 5), Aberhonddu (Hydref 6), Ynys Môn (Hydref 12 a 13), Llangollen (Hydref 20 a 21), Dolgellau (Hydref 22 a 25) a Chonwy (Hydref 27 a 28).

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?