S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn lansio cyfres wleidyddol newydd - CF99

02 Hydref 2007

Bydd S4C yn lansio cyfres wleidyddol newydd nos yfory, Mercher 3 Hydref am 9.30pm.

O adeilad eiconig y Senedd ym Mae Caerdydd y daw CF99 gyda Bethan Rhys Roberts a Vaughan Roderick yn bwrw golwg bywiog ar bynciau trafod yr wythnos. Mae’r gyfres wedi ei henwi ar ôl côd post unigryw'r adeilad.

Mae’r gyfres yn cael ei lansio yn dilyn darllediad diweddar y gyfres ddogfen Datganoli, a ddangosodd bod 83% o etholwyr Cymru bellach yn gefnogol i hunan lywodraeth mewn rhyw ffurf neu’i gilydd.

Fel un sydd wedi gweithio ar deledu a radio, yn y Gymraeg ac yn Saesneg, mae Bethan yn edrych ymlaen yn fawr at gychwyn y rhaglen. Mae ei gwaith fel newyddiadurwraig wedi mynd â hi i Baris, Hong Kong, Sudan, Tseina a Llundain. Nawr mae ganddi gartref newydd ymysg y gwleidyddion

“Ar hyn o bryd dwi’n gweithio ar Good Morning Wales ar BBC Radio Wales a dwi wedi colli gweithio ar deledu ac yn y Gymraeg. Pan ddaeth yr alwad i weithio ar CF99 ro’n i wrth fy modd gan ei fod yn gyfuniad perffaith i mi.

“Bydd hi’n braf gweithio gyda Vaughan Roderick hefyd. Fe wnes i gwrdd ag o ar fy niwrnod cyntaf yn BBC Cymru nôl yn 1992 ac er ein bod ni wedi gweithio yn yr un cylchoedd, tydan ni erioed wedi cael cyfle i gyd-gyflwyno rhaglen.”

Mae Vaughan yn wyneb ac yn llais cyfarwydd iawn ym maes gwleidyddiaeth. Ef yw cyflwynydd Dau o’r Bae a fydd yn ail gychwyn cyn bo hir ar BBC Radio Cymru ac mae ei flog gwleidyddol ar bbc.co.uk/cymru yn derbyn bron i 3,000 o ymwelwyr yn ddyddiol. Bydd cyfle yn y dyfodol agos i fwynhau ei bodlediad (podcast) wythnosol ar bbc.co.uk/radiocymru pan fydd yn rhoi ei farn ar y straeon a’r sibrydion o’r Senedd a San Steffan.

Bydd Bethan a Vaughan yn cynnig golwg gyfoes a ffres ar wleidyddiaeth Cymru gan wahodd gwesteion gwahanol i ymuno â nhw yn fyw ar CF99 bob nos Fercher i gnoi cil dros ddigwyddiadau’r wythnos.

Cf99

Nos Fercher, 3 Hydref, 9.30pm, S4C

Cynhyrchiad BBC Cymru ar S4C

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?