S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn datgelu rhaglenni’r pen-blwydd arian

24 Hydref 2007

Mae S4C yn nodi ei phen-blwydd yn 25 ar 1 Dachwedd gyda llond gwlad o raglenni arbennig, cyfresi newydd a gwasanaethau ar eu newydd wedd.

Bydd cyfres dwy raglen am hanes darlledu yn yr iaith Gymraeg, rhifynnau arbennig o hen ffefrynnau, ffilmiau a chomedïau clasur o’r archif yn rhan o’r arlwy.

Mae’r pen-blwydd yn gweld lansio dwy gyfres newydd o bwys, Y Pris a Casa Dudley, ynghyd ag ailwampio dolenni cyflwyno’r gwasanaeth plant a’r bwletinau tywydd.

Bydd y Sianel hefyd yn cyflwyno cyfres o ddeg o ffilmiau hyrwyddo byrion newydd fel rhan o’i hymgyrch ail-frandio.

Bydd tymor y dathlu yn dechrau nos Wener, 26 Hydref, gyda darlledu’r ffilm Cymer Dy Siâr, sy’n seiliedig ar y gyfres ddrama boblogaidd, Tair Chwaer.

Geni S4C

Bydd y gyfres ddogfen dwy raglen Teledu’r Cymry (30 Hydref a 6 Tachwedd) yn bwrw golwg ar hanes darlledu trwy gyfrwng y Gymraeg, o’r dyddiau arloesol cynnar yn y 1950au i sefydlu S4C ym 1982, a sialensiau'r byd aml-sianel digidol.

Cyfresi newydd

Mae’r gyfres ddrama 13-pennod newydd a gafaelgar, Y Pris, yn dilyn bywydau cymhleth criw o gangsters o orllewin Cymru. Mae’r cast yn cynnwys Philip Madoc, Matthew Gravelle, Nia Roberts a Rhodri Meilir. Mae’r gyfres yn dechrau ar 31 Hydref.

Mae’r gyfres goginio newydd, Casa Dudley, sy’n dechrau ar 4 Tachwedd, yn dilyn wyth cogydd amatur i’r Umbria yn yr Eidal, lle byddent yn wynebu gwahanol sialensiau yn y gegin, dan lygaid barcud y chef amlwg Dudley Newbery.

Gwasanaethau Newydd

O Ddydd Llun, 29 Hydref, mae S4C yn lansio ei dolenni cyflwyno gwasanaeth plant newydd, Planed Plant a Planed Plant Bach, gyda’r cyflwynwyr newydd Geraint Hardy a Meleri Williams, a Rachael Solomon a Gareth Delve. Bydd elfen gref o ryngweithio yn rhan o’r dolenni newydd.

Mae S4C hefyd yn cyflwyno gwasanaeth tywydd ffres, gyda chyflwynwyr a graffeg newydd.

Rhaglenni arbennig

Bydd tymor o rifynnau arbennig o ffefrynnau S4C yn cael ei ddarlledu i nodi’r pen-blwydd:

• Bydd y gyfres ffasiwn Cwpwrdd Dillad (2 Tachwedd) yn tyrchu yng nghypyrddau dillad y cyflwynwyr Beti George, Elinor Jones a’i merch Heledd Cynwal, a’r diddanwr Dewi Pws – ill pedwar yn wynebau cyfarwydd ar S4C dros y chwarter canrif ddiwethaf.

• Bydd y gyfres dai ac addurno 04 Wal (31 Hydref) yn ymweld â set y ffilm Gymraeg newydd, Martha, Jac a Sianco, sy’n seiliedig ar nofel arobryn Caryl Lewis. Bydd y rhaglen hefyd yn datgelu hoff ystafell Prif Weithredwr S4C, Iona Jones, a chawn weld y dderbynfa a’r mannau cyhoeddus newydd ym mhencadlys y Sianel yng Nghaerdydd.

• Bydd y gyfres o fawl a chanu emynau, Dechrau Canu Dechrau Canmol yn nodi’r pen-blwydd gyda gwasanaeth o ddiolchgarwch ar 4 Tachwedd.

• Darlledir y ffilm Hedd Wyn, a enwebwyd ar gyfer Oscar, ar 28 Hydref.

• Bydd slot hanner awr o gomedi retro hefyd yn dechrau ar nosweithiau Iau yn ystod yr wythnosau nesaf.

Brand Newydd

Bydd deg o ffilmiau hyrwyddo byrion newydd yn cael eu dangos cyflwyno i gyd-fynd a’r pen-blwydd. Yn defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf un, wedi ei theilwra’n arbennig ar gyfer S4C, bydd y ffilmiau wedi eu hanimeiddio i ddilyn llais cyflwynwyr unigol.

Wedi eu ffilmio mewn lleoliadau ar draws Cymru, mae’r ffilmiau hyrwyddo yn ffurfio rhan o frand newydd S4C, a lansiwyd ym mis Ionawr eleni, ac sydd wedi ei fabwysiadu ar draws holl weithgareddau S4C – ar, ac oddi ar, yr awyr, ac ar-lein.

Meddai Prif Weithredwr S4C, Iona Jones, “Ers i SuperTed lansio arlwy S4C ar 1 Tachwedd 1982, mae’r Sianel wedi mynd o nerth i nerth.

“Dechreuodd S4C fel arbrawf tair blynedd yn darlledu 22 awr yr wythnos o raglenni Cymraeg. Heddiw, mae S4C yn darlledu dros 80 awr o raglenni'r wythnos, sydd ar gael ar draws gwahanol lwyfannau trwy’r Deyrnas Unedig a thu hwnt.

“Mae’n bleser inni i nodi’r pen-blwydd arbennig hon gyda llond gwlad o raglenni a mentrau cyffrous, sy’n adlewyrchu uchelgais greadigol y Sianel wrth inni edrych ymlaen at y dyfodol digidol.”

Diwedd

Nodiadau:

• Bydd y Sefydliad Ffilm Brydeinig (BFI) hefyd yn arddangos tymor o raglenni S4C yng Nghanolfan Gelf Chapter yng Nghaerdydd.

• Cynhelir cynhadledd ryngwladol i nodi’r 25 mlynedd gyntaf o ddarlledu gan S4C yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth ar 2- 3 Tachwedd. Trefnir y gynhadledd gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru, Prifysgol Aberystwyth, a Mercator.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?