S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Clive Jones yn derbyn y CBE

06 Rhagfyr 2007

Derbyniodd Clive Jones, aelod anweithredol o Fwrdd Cyfarwyddwyr S4C, y CBE gan Ei Mawrhydi'r Frenhines mewn arwisgiad ym Mhalas Buckingham heddiw (6 Rhagfyr).

Anrhydeddwyd Mr Jones, sy’n wreiddiol o Bontllanfraith, Gwent, am ei wasanaeth i ddarlledu.

Roedd ei wraig, Ms. Vikki Heywood, Cyfarwyddwr Gweithredol y Royal Shakespeare Company, a’i dad, Mr. Ken Jones o Bontllanfraith, Gwent yno i’w weld yn derbyn yr anrhydedd. Roedd ei blant hefyd yn bresennol yn y seremoni.

Yn gyn ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Treffynnon, mae Clive Jones hefyd yn gadeirydd anweithredol GMTV. Mae’n gyn Brif Weithredwr Newyddion a Rhanbarthau ITV a Rheolwr Gyfarwyddwr ITV Network Ltd. Cadeiriodd Cronfa IP Cymru a Busnes Creadigol Cymru ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Mediabox, sy’n gyfrifol am gyllideb cyfryngau ieuenctid Llywodraeth y DU. Mae’n gymrawd y Gymdeithas Teledu Frenhinol ers 1997.

Meddai Clive Jones: "Roedd yn wych cael treulio’r diwrnod gyda’r teulu a mynd â’m tad i Balas Buckingham."

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?