S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Enillydd Ysgoloriaeth Bryn Terfel 2008

22 Medi 2008

(Datganiad gan Urdd Gobaith Cymru)

Rhian Lois Evans o Bontrhydygroes ger Tregaron ddaeth i’r brig yng nghystadleuaeth Ysgoloriaeth Bryn Terfel Urdd Gobaith Cymru eleni. Cynhaliwyd y gystadleuaeth heno yn Theatr Stiwt, Rhosllanerchrugog gyda chwech o bobl ifanc Cymru yn ymgiprys am yr ysgoloriaeth sy’n werth £4,000.

Rhian Lois gipiodd y brif wobr yn y gystadleuaeth Unawd Unigol yng Nghonwy eleni. Daw Rhian yn wreiddiol o Bontrhydgroes, Ceredigion ac mae hi bellach ar ei blwyddyn olaf yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd. Wedi graddio, ei gobaith yw dilyn cwrs ôl-radd yn Llundain.

Meddai Rhian (yr enillydd):

“Rwy’n teimlo mor hapus, ac yn methu credu’r canlyniad. Mae hi wedi bod yn noson ardderchog ac yn brofiad bythgofiadwy. Er eu bod wedi bod yn ddau ddiwrnod blinedig rwyf wedi mwynhau pob eiliad. Rwyf am ddefnyddio’r arian ar astudio cwrs ôl-radd yn unai Llundain neu Caerdydd gan arbenigo mewn canu clasurol.”

Yn ôl Aled Siôn, Cyfarwyddwr Eisteddfod a’r Celfyddydau, Urdd Gobaith Cymru:

‘’Cafwyd noson werth chweil heno yng nghyngerdd Ysgoloriaeth Bryn Terfel Urdd Gobaith Cymru 2008. Cawsom wledd o dalent ac roedd y safon yn eithriadol o uchel yma yn Theatr y Stiwt, Rhosllanerchrugog. Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i Bryn Terfel am ei gefnogaeth ddiddiwedd i’r Ysgoloriaeth arbennig hon bob blwyddyn. Bydd y wobr ariannol o fudd mawr i’r enillydd ar ddechrau ei yrfa/gyrfa. Dymunaf bob llwyddiant i Rhian Lois Evans i’r dyfodol.’’

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?