S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Bwrlwm Pabell S4C yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd

29 Gorffennaf 2008

Mae llu o weithgareddau ar droed ar gyfer ymwelwyr â Phabell S4C ar faes Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a’r Cylch (2-9 Awst).

Yn ystod yr wythnos bydd amrywiaeth helaeth o berfformiadau ar gyfer plant o bob oedran, gan gynnwys sioe gyda chymeriadau Pentre Bach, sy’n teithio i’r brifddinas i roi syrpreis fach i Jac y Jwc. Bydd straeon o bob math yn y gornel ddarllen yn y babell, yn ogystal â thaith llawn hud a lledrith yng nghwmni Heini.

Trwy gydol yr wythnos bydd cyflwynwyr Cyw, Gareth Delve a Rachael Solomon, yn canu ac yn dawnsio gyda nifer o gymeriadau plant mwyaf poblogaidd y Sianel, gan gynnwys SuperTed, Sam Tân, Bert yr Arth o Holi Hana a Cyw ei hun.

Ar ddydd Sadwrn olaf yr Eisteddfod, bydd aelodau bywiog a lliwgar grŵp pop Igi, Tigi, Bip a Bop yn perfformio caneuon o’u cyfres.

Ar gyfer plant hŷn, bydd cyflwynwyr y sioe goginio Stwffio, Alun ac Anthony, yn llawn drygioni wrth iddyn nhw ofyn i wynebau mwyaf adnabyddus S4C gyflawni gwahanol sialensiau yn y gegin.

Bydd y cyflwynwyr plant, Meleri Williams, Geraint Hardy ac Alex Jones, hefyd yn gwahodd ymwelwyr i chwarae’r gêm ryngweithiol newydd, Pry Bop.

A fyddech chi’n gallu pweru teledu plasma drwy seiclo ar feic yn ei unfan? Dyna’r sialens fydd yn wynebu ymwelwyr i arddangosfa Cwm Glo Cwm Gwyrdd ym Mhabell S4C. Dyma gyfres newydd fydd yn herio pedwar o bobl ifanc a’u teuluoedd i fyw bywyd mwy ‘gwyrdd’. Yn ystod yr wythnos bydd cyfle i gwrdd â’r criw sy’n cymryd rhan yn y gyfres, yn ogystal â holi aelodau cast cyfres ddrama newydd S4C, 2 Dŷ a Ni, a’r ffilm newydd Ryan a Ronnie, sy’n cael ei dangos yn ystod wythnos yr Eisteddfod ac a ddarlledir ar S4C yn 2009.

Bydd arddangosfa Byw yn yr Ardd hefyd, gyda chyfle i ymwelwyr ennill gwerth £250 o dalebau B&Q drwy enwi’r planhigion yn gywir.

Bydd mwy o weithgareddau y tu allan i Babell S4C, wrth i’r cwrs golff ddychwelyd a bydd yr ymwelwyr ieuengaf yn gallu mwynhau antur hudolus o amgylch byd Cyw drwy neidio ar fws Cyw, fydd gerllaw pabell S4C drwy gydol yr wythnos.

Am fanylion llawn, cysylltwch â Gwifren Gwylwyr S4C ar 0870 6004141.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?