S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyfres Ffermio S4C yn lansio cystadleuaeth treilars

22 Gorffennaf 2008

Mae cyfres boblogaidd S4C, Ffermio, wedi lansio ei chystadleuaeth gwylwyr ar faes y Sioe Frenhinol gan gynnig tri threilar o’r safon uchaf.

Y cwmni arobryn o Gorwen, Ifor Williams Trailers Ltd sy’n cyflenwi’r gwobrau – sef ceffylau HB506 yn wobr gyntaf, treilar da byw TA5 yn ail wobr a threilar P5 yn drydedd wobr.

Pan fydd Ffermio yn dychwelyd nos Lun, 29 Medi, bydd cyflwynwyr y rhaglen yn gofyn cwestiwn gwahanol bob pythefnos am y deg wythnos sy’n dilyn. Bydd llythyren gyntaf pob ateb, wrth ei hail drefnu, yn sillafu gair chwe llythyren. Er mwyn cystadlu, bydd yn rhaid i wylwyr ddilyn y gyfres.

Dewisir yr enillwyr ar hap o’r holl atebion cywir ac er mwyn sicrhau’r gwobrau bydd yn rhaid i’r cystadleuwyr ateb un cwestiwn arall dros y ffôn. Cyflwynir y gwobrau i’r enillwyr yn y Ffair Aeaf a gynhelir ar faes y sioe yn Llanelwedd ar 1 a 2 Rhagfyr.

Meddai Mererid Wigley, un o gyflwynwyr Ffermio, a gynhyrchir gan y cwmni teledu o Abertawe, Telesgop, “Rydym yn falch iawn bod cwmni Cymreig o’r fath statws rhyngwladol yn gallu cynnig treilars o’r ansawdd uchaf eto eleni. Rydym yn edrych ymlaen at gael ymateb brwd iawn i’r gystadleuaeth pan fydd y gyfres yn dychwelyd yn yr hydref.”

Bydd manylion pellach ar gael maes o law ar wefan Ffermio, s4c.co.uk/ffermio neu Ffermio.net.

Bydd Ffermio yn dychwelyd ar 29 Medi. Mae’r Bwletin Ffermio yn cael ei ddarlledu ddwywaith yr wythnos ar S4C digidol gydol y flwyddyn ar ddyddiau Mawrth a Gwener am 1.30pm.

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?