S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn sicrhau’r hawliau i ddarlledu gemau criced Morgannwg yn yr iaith Gymraeg

05 Awst 2008

Mae S4C wedi sicrhau’r hawliau i ddarlledu gemau Clwb Criced Morgannwg a’r gystadleuaeth newydd, Cwpan Cymru, yn fyw ac ar ffurf uchafbwyntiau o 2010 ymlaen am bedwar tymor.

Gwnaed y cyhoeddiad gan Fwrdd Criced Lloegr a Chymru heddiw (5 Awst) wrth ddadlennu pecyn darlledu cynhwysfawr ar gyfer criced rhyngwladol a chystadlaethau’r siroedd.

Bydd S4C yn darlledu pum gêm Morgannwg yn fyw ac ecsglwsif ar y sianel ym mhob un o’r pedwar tymor, naill ai o’r Uwch Gynghrair newydd neu o’r gystadleuaeth ugain pelawd, Twenty20. Yn ogystal, bydd y sianel yn darlledu uchafbwyntiau o gemau’r sir.

Bydd y sianel hefyd yn darlledu cystadleuaeth ugain pelawd newydd ar gyfer pentrefi’r wlad, Cwpan Cymru.

Meddai Giles Clarke, Cadeirydd Bwrdd Criced Lloegr a Chymru: "Rwy’n falch iawn y bydd S4C yn gallu dangos gemau Morgannwg gyda sylwebaeth yn yr iaith Gymraeg. Rwyf hefyd yn croesawu eu cefnogaeth i’r gystadleuaeth ar gyfer pentrefi Cymru, Cwpan Cymru ac yn falch bod S4C am ei darlledu."

Ychwanegodd Geraint Rowlands, Golygydd Cynnwys Chwaraeon S4C: "Mae S4C yn edrych ymlaen yn eiddgar at ddangos criced byw yn yr iaith Gymraeg. Wrth ddangos pum gêm Morgannwg yn fyw ac yn ecsgliwsif ar deledu rhad ac am ddim, yn ogystal ag uchafbwyntiau o gemau Morgannwg, a gyda'n darpariaeth gynhwysfawr o gystadleuaeth gyffrous a newydd Cwpan Cymru, bydd S4C yn chwarae rhan allweddol yn natblygiad criced ar bob lefel yng Nghymru."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?