S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Jonathan Davies i gyflwyno cyfres golff S4C

15 Awst 2008

Mae darllediadau golff S4C yn dechrau nos Fercher, 20 Awst (9.30pm) pan fydd y gyfres gylchgrawn Golffio yn dangos uchafbwyntiau rhad ac am ddim o rai o gystadlaethau golff mwya’r byd.

Prif gyflwynydd y gyfres fydd y cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol a’r golffiwr brwd Jonathan Davies, gyda’r cyflwynydd, actor a difyrrwr Dewi ‘Pws’ Morris a’r cyflwynydd Llinos Lee yn gohebu.

Mae Golffio yn dechrau gydag uchafbwyntiau cylchdaith PGA yr UDA, Cylchdaith Ryngwladol Ewrop a Phencampwriaeth Merched Ewrop a gynhelir yr wythnos hon yng Nghlwb Golff Machynys ger Llanelli, gyda Phencampwriaeth Merched Cymru Ewrop S4C.

Wrth edrych ymlaen, bydd y rhaglen Golffio yn darlledu uchafbwyntiau cystadleuaeth Cwpan Ryder 2010, i’w chynnal yng Nghymru ar Gwrs Agored Cymru’r Celtic Manor, Casnewydd,ynghyd â nifer o dwrnameintiau eraill yn ystod y tri thymor nesaf.

Meddai Jonathan Davies: “Rwy’n edrych ymlaen yn arw at gyflwyno Golffio ar S4C. Dwi wedi bod yn ddilynwr brwd o’r gêm ers blynyddoedd, fel chwaraewr amatur a gwyliwr. Mae golff yn gêm boblogaidd iawn yng Nghymru a gyda’r Cwpan Ryder yma yn 2010, mae’n gyfnod arbennig o gyffrous. Rwy’n hyderus y bydd Golffio yn darparu’r gyfres ddifyr o safon uchel y mae dilynwyr golff yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig yn eu haeddu.”

Ychwanegodd Geraint Rowlands, Golygydd Cynnwys Chwaraeon S4C: “Rydym yn falch iawn bod cyflwynydd o statws Jonathan Davies yn arwain y tîm cyflwyno. Mae ei allu fel sylwebydd chwaraeon heb ei ail ac mae hefyd yn chwaraewr golff dawnus gyda dealltwriaeth lawn o’r gêm. Mae’n ganolog i’r tîm cyflwyno, sydd ill tri’n ddilynwyr brwd o golff. Bydd hiwmor a gwreiddioldeb Dewi ‘Pws’ Morris yn gaffaeliad mawr i’r rhaglen ac mae Llinos wedi creu cryn argraff fel cyflwynydd y gyfres boblogaidd i bobl ifanc, Uned 5.”

Mae Golffio, a gynhyrchir gan y cwmni teledu o Gaerdydd, Indus Films, yn llawn eitemau a newyddion am y cystadlaethau golff mawr, y prif chwaraewyr yng Nghymru a’r byd, cyrsiau golff difyr, ynghyd ag offer a’r dillad golfio diweddara’.

Bydd y rhaglen gyntaf yn bwrw golwg ar frwydr golffwyr Ewrop i ennill eu lle yn nhîm Cwpan Ryder Ewrop Nick Faldo i herio’r Americanwyr yng Nghwpan Ryder 2008 a gynhelir yng Nghlwb Golff Valhalla, Louisville, Kentucky, UDA rhwng 19 a 21 Medi.

Mae’r gyfres Golffio, a ddarlledir yn ystod Awst a Medi gyda rhaglen ym mis Tachwedd yn edrych yn ôl ar y tymor, yn newyddion da i ddilynwyr golff ledled y DU. Bydd Golffio ar gael ar S4C digidol yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon ar Sky 134 a Freesat 120 yn ogystal ag ar Freeview 4, Freesat 104, Sky 104 aVirgin Media 194 yng Nghymru.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?