S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Gwledd o goliau ar S4C

20 Awst 2008

Lansio Sgorio ar ei newydd wedd

Mae S4C wedi lansio'i gwasanaeth rhaglenni pêl-droed newydd, gan ddadlennu arlwy egscliwsif, rad ac am ddim o gemau rhyngwladol a domestig dros y pedwar tymor nesaf.

O dan y brand Sgorio ar ei newydd wedd, fe fydd y gwasanaeth yn cynnwys:

• pecynnau byw ac uchafbwyntiau o Uwch Gynghrair Principality Cymru a Chwpan Cymru yn Sgorio Cymru i'w darlledu ar nosweithiau Sadwrn;

• y gorau o glybiau mawr Ewrop yng nghynghreiriau La Liga, Bundesliga ac Eredivisie ynghyd ag uchafbwyntiau o Uwch Gynghrair Principality Cymru yn rhaglen uchafbwyntiau nos Lun, Sgorio;

• Uchafbwyntiau ymgyrch Cymru i gyrraedd Cwpan y Byd yn 2010;

• Sgorio Bach, rhaglen bêl-droed i blant, ar brynhawniau Mawrth;

Bydd sylwebaeth Saesneg ar gael fel rhan o wasanaethau botwm coch digidol S4C. Pan fo hawliau’n caniatáu, bydd rhaglenni Sgorio ar gael ar-lein am 35 diwrnod ar ôl y darlledu ar www.s4c.co.uk/gwylio.

Lansiwyd y pecyn newydd o raglenni cyn y gêm gyfeillgar Cymru v Georgia yn Stadiwm y Liberty. Roedd y rhaglen hefyd yn cynnwys uchafbwyntiau gem tîm dan 21 oed Cymru yn erbyn Rwmania yn Wrecsam. Mae uchafbwyntiau’r gêm ar gael i'w gwylio ar-lein ar www.s4c.co.uk/gwylio.

Cyflwynydd newydd y sioe nos Sadwrn Sgorio Cymru yw Alun Williams. Bydd Nic Parry yn ymuno ag Alun ar gyfer rhaglen gylchgrawn Sgorio nos Lun. Bydd Morgan Jones yn gohebu o leoliadau gwahanol ledled y wlad, tra bydd Gareth Roberts yn arwain y tîm ar gyfer y gemau rhyngwladol.

Mae'r cyn chwaraewyr pêl-droed John Hartson, Malcolm Allen a Dai Davies ymhlith y tîm awdurdodol o arbenigwyr fydd yn dadansoddi a thrafod pêl-droed Cymru a’r byd.

Daw'r arlwy newydd o bêl-droed wedi i S4C arwyddo cytundeb pedair blynedd gyda Chymdeithas Pêl-droed Cymru a roddir hawliau daearol i S4C ddarlledu pêl-droed rhyngwladol a domestig tan 2012.

Meddai Geraint Rowlands, Golygydd Cynnwys Chwaraeon S4C: "Mae ail lansio Sgorio yn dangos ymroddiad parhaus S4C i bêl-droed Cymru trwy bartneriaeth y Sianel â Chymdeithas Pêl-droed Cymru. Gyda rhagor na 85 o oriau o bêl-droed ar S4C yn ystod y flwyddyn, bydd yna raglenni rheolaidd yn darlledu cystadlaethau pêl-droed yng Nghymru a thu hwnt. Bydd ein tîm arbenigol o gyflwynwyr a sylwebwyr ar Sgorio yn cynnig y dadansoddi gorau posibl o berfformiadau ein timau yng Nghymru a Phrydain ac yn rhyngwladol."

Cynhyrchir Sgorio ar gyfer S4C gan Rondo. Bydd gwefan gynhwysfawr yn cyd-fynd â’r gwasanaeth teledu: www.s4c.co.uk/sgorio.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?