S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Tymor newydd o rygbi ar S4C

29 Awst 2008

Heddiw, cyhoeddwyd arlwy rygbi arobryn S4C ar gyfer tymor 2008/09. Bydd Cynghrair Magners, Cwpan Heineken, Prif Gynghrair y Principality, Cwpan Swalec, gemau rhyngwladol yr Hydref a Phencampwriaeth Chwe Gwlad 2009 i gyd yn cael eu dangos fel rhan o becyn cynhwysfawr y Sianel o gemau byw ac uchafbwyntiau estynedig.

Ac am y tro cyntaf, cynigir sylwebaeth Saesneg ar gemau byw Cynghrair Magners yn ogystal â gemau Prif Gynghrair Principality trwy wasanaeth botwm coch ar S4C digidol ar Sky. Bydd y sain a dadansoddiad arbenigol o’r gemau yn parhau i fod drwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd Gareth Roberts, Huw Llywelyn Davies, Gwyn Jones, a Brynmor Williams yn cyflwyno cychwyn ymgyrch newydd Cynghrair Magners 2008/09 gyda dwy gêm fyw bwysig o fewn pedwar diwrnod.

Ym Mharc yr Arfau, Caerdydd nos Sadwrn 6 Medi (6.10 pm), bydd y Gleision yn croesawu pencampwyr y gynghrair y tymor diwethaf, Leinster. Yna, nos Fawrth 9 Medi, bydd darllediad byw o daith y Gleision i Stadiwm Liberty ar gyfer gêm leol gynta'r tymor yn erbyn eu gelynion rhanbarthol, y Gweilch (7.25 pm). Cynhyrchir y darllediadau gan BBC Cymru.

Bydd uchafbwyntiau gemau Cwpan Heineken hefyd ar gael yn ystod y tymor, gan i dendr agored i gynhyrchu pecynnau uchafbwyntiau o fis Hydref ymlaen gael ei ennill yn ddiweddar gan bartneriaeth ar y cyd rhwng cwmnïau cynhyrchu Sunset + Vine a Sports Media Services.

Bydd holl gyffro prif gystadleuaeth clybiau Cymru ar ei newydd wedd yn cael ei ddarlledu hefyd, gyda 10 gêm fyw o Brif Gynghrair Y Principality. Y darllediad cyntaf fydd gornest leol rhwng dau dîm o Went, Glyn Ebwy a Chasnewydd.

Ym mis Tachwedd, bydd arwyr y Gamp Lawn yn wynebu sialensiau di-ri wrth i Dde Affrica, Canada, Seland Newydd ac Awstralia deithio i Stadiwm y Mileniwm ar bedwar penwythnos yn olynol – a darlledir y gemau hyn i gyd yn fyw ar S4C.

Meddai Geraint Rowlands, Golygydd Cynnwys Chwaraeon S4C: "Mae'r rhestr yma o gemau ar draws ystod eang o gystadlaethau yn dangos ymrwymiad S4C i'r gêm ar bob lefel yma yng Nghymru."

Mae S4C digidol ar gael i'w wylio yng Nghymru ar sianel Sky 104 ac ar sianel Freeview 4. Tu allan i Gymru, mae modd gwylio S4C ar sianel Sky 134.

Mae rhagor o wybodaeth ar arlwy rygbi S4C ar gael ar y wefan s4c.co.uk/chwaraeon

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?