S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn y ffrâm am wobr Darlledwr y Flwyddyn

18 Medi 2008

Mae S4C wedi cael ei henwebu yn y categori Darlledwr y Flwyddyn yng Ngwobrau Teyrnged Cartoon Forum 2008, sy’n cydnabod cyfraniad arbennig i’r diwydiant animeiddio yn Ewrop drwy’r flwyddyn.

Cynhelir y seremoni wobrwyo ar 19 Medi yn Ludwigsburg, Yr Almaen, fel rhan o Cartoon Forum, y digwyddiad cyd-gynhyrchu blynyddol i’r diwydiant animeiddio.

Enwebwyd S4C am “ei henw da ym maes rhaglenni plant” ac am “roi help aruthrol i ddatblygiad animeiddio yng Nghymru drwy weithgareddau cynhyrchu deinamig.”

Bydd S4C yn cystadlu yn erbyn France 3 (Ffrainc), Jetix Europe, Sveriges Television (SVT) (Sweden) a ZDF (Zweites Deutches Fernsehen) (Yr Almaen) am y wobr, gyda’r rheiny sy’n mynychu’r Cartoon Forum yn pleidleisio.

Meddai Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, “Mae’r enwebiad yn adlewyrchu cydweithrediad llwyddiannus rhwng S4C a’r sector animeiddio annibynnol yng Nghymru. Mae hefyd yn dda o beth cael cydnabyddiaeth ar lwyfan rhyngwladol i’r rhagoriaeth greadigol hon ym maes rhaglenni plant.”

Diwedd

Nodiadau i’r golygydd

* Mae’r cynyrchiadau canlynol ymhlith comisiynau animeiddio diweddaraf S4C:

Holi Hana, cyfres animeiddio i blant meithrin a gynhyrchir gan gwmni Calon, ac a werthwyd i dros ddwsin o wledydd ledled y byd.

Y ffilm gan Joanna Quinn, Beryl, Y Briodas a’r Fideo, sydd wedi ennill nifer helaeth o wobrau, gan gynnwys y Cartoon d’Or.

Cwm Teg, cyfres animeiddio a gynhyrchwyd gan gwmni Dinamo, yn seiliedig ar hwiangerddi Cymraeg cyfoes a thraddodiadol.

* Enwebwyd cyfres ddrama S4C am griw o giangsters o’r gorllewin, Y Pris, am wobr Ewropeaidd o bwys. Mae’r ddrama, a ysgrifennwyd gan Tim Price ac a gyfarwyddwyd gan Ed Talfan a Gareth Bryn, yn un o’r enwebiadau am wobr TV Fiction yn Prix Europa 2008, a gynhelir ym mis Hydref. Cynhyrchir Y Pris gan Fiction Factory.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?