S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Dyddiad cau cystadleuaeth Côr Cymru yn nesáu

02 Hydref 2008

Bydd yn rhaid i gorau Cymru frysio os ydynt am gystadlu yn un o gystadlaethau corawl mwyaf Cymru gan fod y dyddiad cau ar gyfer Côr Cymru 2009 S4C yn prysur nesáu.

Mae’r gystadleuaeth, a gynhelir bob yn ail flwyddyn, bellach yn un o ddigwyddiadau mwya’r calendr cerddorol yng Nghymru. Mae’r ddau gôr Cymreig a gyrhaeddodd rownd derfynol cystadleuaeth deledu'r BBC, Last Choir Standing, Only Men Aloud a Chôr Ysgol Glanaethwy ymhlith y cystadleuwyr blaenorol.

Ond bydd yn rhaid i’r rhan fwyaf o gorau sy’n breuddwydio am ddilyn ôl troed enillwyr y gorffennol a chipio’r brif wobr o £7,000, anfon eu ceisiadau i’r cwmni cynhyrchu Rondo erbyn Dydd Llun, 6 Hydref.

Mae’r dyddiad cau yma’n berthnasol i bedwar o’r pum categori - Corau Plant o dan 16 mlwydd oed;; Corau Cymysg; Corau Merched a Chorau Meibion - ond bydd y dyddiad cau ar gyfer Corau Ieuenctid o dan 25 mlwydd oed yn cael ei estyn i 28 Hydref.

Mae croeso cynnes i gorau o Gymru, corau â chysylltiad agos â Chymru neu gorau sy’n perfformio’n rheolaidd yn Gymraeg gystadlu. I gyflwyno eich cais, rhaid cysylltu â 029 2022 3456 a gofyn am swyddfa Côr Cymru 2009 neu ebhostio corcymru@rondomedia.co.uk

Meddai Robert Nicholls, Golygydd Cynnwys Diwylliant S4C, “Mae Rondo eisoes wedi derbyun amrywiaeth eang o geisiadau ar gyfer cystadleuaeth Côr Cymru 2009 S4C ond rydym yn benderfynol y bydd y gystadleuaeth y tro hwn yn fwy ac yn well nag erioed o’r blaen. Mae cystadlaethau corawl yn cael cryn sylw ar hyn o bryd, ond mae Côr Cymru wedi arwain y ffordd ers y gystadleuaeth gyntaf yn 2003 wrth roi llwyfan teilwng i gorau Cymreig.”

Bydd panel o feirniaid rhyngwladol yn beirniadu’r gystadleuaeth, gyda’r rhagbrofion yn cael eu cynnal ym mis Tachwedd 2008. Bydd y rowndiau cynderfynol yn cael eu cynnal ym mis Chwefror 2009 a bydd y rownd derfynol ar ddydd Sul, 5 Ebrill, yn Neuadd Fawr, Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth. Bydd y rowndiau cynderfynol a therfynol yn cael eu recordio gan Rondo a’u darlledu ar S4C ac ar S4C Digidol.

Mae enillwyr blaenorol y gystadleuaeth yn cynnwys y côr cymysg Côr Cywair o Gastell Newydd Emlyn (2007) a’r côr plant, Ysgol Gerdd Ceredigion (2003), ill dau dan arweiniad Islwyn Evans, a’r côr cymysg, Serendipity o Gaerdydd (2005), dan lyw arweinydd Only Men Aloud, Tim Rhys Evans.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?