S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn cyhoeddi targed isdeitlo 100%

08 Hydref 2008

Mae S4C yn cynyddu ei hymrwymiad i wasanaethau mynediad trwy fabwysiadu targed o isdeitlo 100% o raglenni erbyn diwedd 2009.

Mae'r targed hwn am isdeitlau Saesneg y tu hwnt i ofynion Ofcom i S4C, ond bydd yn ddibynnol ar hawliau.

Yn atodol i wasanaeth teledu S4C, bydd isdeitlau Saesneg ar gael ar fwyafrif y rhaglenni ar-alw sydd i'w gweld ar fand llydan ar s4c.co.uk/clic.

Mae'r isdeitlau'n rhan o becyn o wasanaethau sy'n cael eu darparu gan S4C i helpu pobl fyddar neu drwm eu clyw, pobl ddall ac â phroblemau golwg i fwynhau rhaglenni'r Sianel.

Mae arwyddo yn Iaith Arwyddo Prydeinig (BSL), sain ddisgrifio a phodledu ymhlith y gwasanaethau eraill sydd ar gael i gyd-fynd â rhaglenni S4C.

Daw'r newyddion am yr isdeitlo wrth i S4C gyhoeddi pecyn o wasanaethau newydd i ddysgwyr Cymraeg.

Mae Acen, cwmni addysg Gymraeg a chyhoeddi, wedi ennill cytundeb trwy broses dendr agored i ddatblygu ac estyn y gwasanaethau sydd eisoes ar gael i ddysgwyr.

Bydd y cwmni'n gweithio gyda Cube Interactive i ddatblygu cynnwys a chyfleusterau i ddysgwyr o bob gallu, boed yn newydd i'r iaith neu'n siaradwyr rhugl.

Dywedodd Iona Jones, Prif Weithredwr S4C, "Mae'r targed o isdeitlo 100% o raglenni a'r ystod o wasanaethau mynediad eraill, ynghyd â'n hadnoddau cynhwysfawr ar gyfer dysgwyr Cymraeg, yn rhan o ymrwymiad S4C i hyrwyddo mynediad i'r Sianel i wylwyr yng Nghymru a thrwy'r Deyrnas Unedig."

Diwedd

Nodiadau i'r Golygydd:

• Eicon y dylluan, a ddyluniwyd fel rhan o frandio newydd S4C, ydy'r symbol ar y sgrin ac ar-lein ar gyfer isdeitlau.

• Dynodir symbolau eiconau gwasanaethau mynediad eraill fel a ganlyn:

'ok': arwyddo

'swigen llefaru': sain ddisgrifio

• Mae llyfryn am wasanaethau mynediad S4C ar gael yn rhad ac am ddim trwy gysylltu â Gwifren Gwylwyr S4C ar 0870 6004141.

• Am wybodaeth bellach ynglŷn â gwasanaethau isdeitlo S4C, cliciwch ar: http://www.s4c.co.uk/c_subtitles_english.shtml

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?