S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Rygbi daearol ecsgliwsif y Cwpan Heineken ar S4C

10 Hydref 2008

Mae’r Cwpan Heineken yn dychwelyd i S4C dros y penwythnos gydag uchafbwyntiau daearol egscliwsif o gemau rownd agoriadol cystadleuaeth 2008/09.

Bydd y rhaglenni, a ddarlledir nos Sadwrn, 11 Hydref, nos Sul, 12 Hydref, a nos Lun, 13 Hydref, yn cynnwys uchafbwyntiau o gemau agoriadol y pedwar rhanbarth Cymraeg, yn ogystal â’r gorau o’r gystadleuaeth.

Drwy gydol y tymor, bydd Arthur Emyr a Gareth Roberts yn cyflwyno uchafbwyntiau'r Cwpan Heineken nos Sadwrn a nos Sul, gydag Arthur yn ymuno ag Eleri Siôn a Gwyn Jones nos Lun i edrych yn ôl a dadansoddi holl gystadlu’r penwythnos.

Bydd y pedwar rhanbarth yn cystadlu’n frwd y penwythnos hwn. Bydd y Sgarlets yn herio’r Harlequins, y Gweilch yn teithio i Gaerlŷr, y Gleision yn chwarae Calvasino, a’r Dreigiau yn croesawu Glasgow i Barc Rodney.

Meddai Geraint Rowlands, Golygydd Cynnwys Chwaraeon S4C, “Dyma'r brif gystadleuaeth rygbi y tu allan i’r llwyfan rhyngwladol ac mae pob un gêm o bwys, gyda’r byd yn gwylio.”

Diwedd

Nodiadau i’r Golygydd

• Bydd rhaglenni Cwpan Heineken ar gael ar S4C digidol y tu allan i Gymru ar Sky 134 a Freesat 120.

• Dyma raglenni’r penwythnos agoriadol

Cwpan Heineken Sadwrn, 11 Hydref am 7.25pm

Cwpan Heineken Sul, 12 Hydref am 7.30pm

Cwpan Heineken Llun, 13 Hydref am 10.00pm

Rhagflas egscliwsif o gêm y Gweilch yn erbyn Caerlŷr

Bydd y Gweilch yn teithio i Welford Road brynhawn Sul i herio Caerlŷr a bydd y gorau o’r gêm ar gael i wylio ar S4C nos Sul am 7.30pm.

Capten y Gweilch, Ryan Jones, Shane Williams a’r hyfforddwr Sean Holley sy’n edrych ymlaen yn fawr at y frwydr.

Sean Holley, Hyfforddwr y Gweilch

“Mae’n anodd iawn i fi ac i Jonathan (Humphreys, cyd-hyfforddwr) ar hyn o bryd i ddewis carfan gan fod yna gystadleuaeth ffyrnig ar gyfer pob safle. Bydd yna awyrgylch danllyd ar y maes chwarae ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn arw at y frwydr. Rydyn ni wedi delio gyda’r golled yn erbyn y Saraseniaid yn y rownd gogynderfynol y tymor diwethaf er ei fod yn anodd dygymod â’r siom ar y pryd, ond mae gan y garfan lot mwy o brofiad erbyn hyn.”

Shane Williams

“Rwy’n hyderus iawn. Rwy’n gwybod beth sydd yn ein hwynebu dros y penwythnos - tîm arbennig o dda sydd wastad yn gwneud yn dda mas yn Ewrop ac sydd hefyd yn gryf yn chwarae ar eu cae eu hunain yn Welford Road. Rydym ni’n gwybod y bydd Caerlŷr yn cynnig her fawr, ond y cwestiwn yw - ydyn ni’n ddigon dda i ennill yno, ac rwy’n credu ein bod ni.

“Bydd yn rhaid i ni fynd lan i Welford Road yn meddwl ein bod ni’n gallu ennill y gêm. Rydym wedi maeddu nhw o’r blaen a bydd yn rhaid inni chwarae’r un peth eto. Os ry’n ni’n gwneud hynny, ni’n gwybod ein bod ni’n gallu ennill y gêm yma.

“Rwy’n disgwyl ymlaen yn fawr at y gystadleuaeth. Chi’n gwybod unwaith bod y Cwpan Heineken yn dechrau, chi’n chwarae yn erbyn y timau gorau yn Ewrop. S/dim ots pa dimau sydd yn y grŵp, maen nhw i gyd yn gemau caled. Mae’n rhaid i chi ymdopi a hynny ac mae’n rhaid i chi fod yn barod achos mae safon y rygbi yn codi a dim ond y timau gorau sy’n mynd trwyddo. Rydyn ni’n barod am yr her. Rydyn ni wedi gweithio’n galed yn y Magners ar ddechrau’r tymor ac er ein bod ni ychydig yn siomedig gyda’r perfformiad yn yr EDF wythnos diwethaf yn erbyn Harlequins, rydyn yn barod i fynd lan i Welford Road ac ennill.”

Ryan Jones, Capten y Gweilch a Chymru

“Dyma’r cyfnod mwyaf cyffrous yn y calendr rygbi ac mae gyda ni gêm gyffrous yn erbyn Caerlŷr oddi cartre’ a dylai hyn fod yr hysbyseb orau un ar gyfer rygbi Ewropeaidd. Erbyn hyn mae ein gemau yn erbyn Caerlŷr wedi magu tipyn o hanes a thraddodiad ac maen nhw’n gystadleuol tu hwnt. Mae gan Gaerlŷr draddodiad anhygoel ac mae’r bechgyn bob tro yn edrych ymlaen yn fawr at y gêm hon.”

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?