S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C i ddarlledu mewn Manylder Uwch

17 Hydref 2008

 Yn dilyn y cyhoeddiad heddiw gan Ofcom ei bod wedi neilltuo lle i S4C a Channel 4 ddarlledu'r gwasanaethau Manylder Uwch newydd ar deledu daearol digidol, fe ryddhawyd y datganiad canlynol ar y cyd gan y ddau ddarlledwr:

“Rydym yn falch iawn bod cynnig Channel 4 ac S4C ar gyfer slot Manylder Uwch ar lwyfan Freeview wedi llwyddo. Bydd hyn yn galluogi Channel 4 i ddechrau darlledu'n gydamserol mewn Manylder Uwch yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon erbyn diwedd 2009 ac yn caniatáu i S4C ddarparu darllediadau cydamserol mewn Manylder Uwch yng Nghymru.

"Rydym ni'n credu bod darparu sianeli Manylder Uwch ar Freeview yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y llwyfan yn parhau'n gystadleuol mewn byd cwbl ddigidol ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio gyda'n rhanddeiliaid allweddol wrth roi'r cynlluniau ar waith."

Ewch i'r linc isod i ddarllen datganiad i'r wasg Ofcom:

http://www.ofcom.org.uk/media/news/2008/10/nr_20081017?lang=cy

Cyhoeddwyd gan Gyfarwyddiaeth Cyfathrebu S4C.

Am ragor o fanylion, cysylltwch â 029 2074 1416.

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?