S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Mil o goed yn Y Maerdy

15 Hydref 2008

Bydd pedwar person ifanc o Gwm Rhondda a Chwm Cynon yn helpu plannu hyd at 1000 o goed ar hen safle gwaith glo yn Y Maerdy fel rhan o gyfres S4C, Cwm Glo Cwm Gwyrdd, sy’n cael ei darlledu bob nos Iau am 8.25pm.

Bydd Nia Rossiter, Dafydd Francis, Gemma Starkey a Luke Smart yn ymuno â chyflwynydd y gyfres, y naturiaethwr Iolo Williams i blannu’r coed. Bydd disgyblion Ysgol Gyfun y Cymer, Ysgol Gyfun Rhydywaun, Ysgol Gymunedol Ferndale ac ysgolion cynradd Y Maerdy hefyd yn cymryd rhan yn y plannu ar 14 ac 15 Hydref.

Bydd cymysgedd o goed brodorol - gan gynnwys coed derw, criafolen a chollen - yn cael eu plannu ar y safle siâp triongl ym mhen pellaf Cwm Rhondda, sydd hefyd yn cynnwys hen safle stad dai. Fe sicrhaodd Maerdy Regeneration Ltd gyllid gan y Comisiwn Coedwigoedd i blannu ‘Coedwig Fach Y Maerdy’ ar y safle hwn, fel rhan o’r Cynllun Coedwigoedd Cymunedol Cyd Coed. Mae’r egin goedwig yn cael ei datblygu ymhellach fel rhan o Cwm Glo Cwm Gwyrdd.

Mae Cwm Glo Cwm Gwyrdd yn gyfres chwe rhan sy’n dilyn Nia, Dafydd, Gemma, Luke a’u teuluoedd wrth iddynt geisio byw yn fwy gwyrdd. Bob wythnos mae Iolo Williams yn gosod tasg wahanol iddynt, o fyw heb drydan i roi’r gorau i ddefnyddio’r car.

Cafodd cynhyrchwyr y gyfres, Green Bay Media, help gan Coed Cadw gyda’r prosiect plannu coed. Mae’r elusen ar hyn o bryd yn rhedeg ymgyrch Coed i Bawb sy’n anelu at blannu 12 miliwn o goed yn y Deyrnas Unedig dros gyfnod o bum mlynedd - un goeden ar gyfer bob plentyn. Mae’r tir lle maen nhw’n plannu’r coed yn eiddo i gyngor Rhondda Cynon Taf.

Meddai Iolo Williams: “Dwi wedi cael fy rhyfeddu gan y ffordd mae’r pedwar person ifanc sy’n cymryd rhan yn y gyfres wedi cofleidio’r cyfle i fyw’n wyrdd. Drwy gydol y gyfres, rydym wedi eu gweld nhw’n datblygu ac yn codi eu gêm – yn nhermau brwdfrydedd ac ymrwymiad.

“Mae’n wych hefyd ein bod ni wedi gallu bwrw ymlaen gyda’r plannu coed, a fydd yn helpu’r amgylchedd yn y tymor hir, yn ogystal â gwneud gwahaniaeth go iawn i’r gymuned yn Y Maerdy.”

Meddai Claire Morgan o Coed Cadw sy’n trefnu’r plannu: “Mae’r weithred syml o blannu coeden yn gallu ysbrydoli plant ac yn help i gyfleu’r neges fod angen i ni ddiogelu’r coedwigoedd sydd gennym ni yn ogystal â phlannu mwy i gymryd lle’r rhai rydym ni wedi dinistrio yn y gorffennol. Felly, rydym ni wrth ein boddau i fod yn rhan o gynllun Cwm Glo Cwm Gwyrdd. Yn y pen draw, rydym yn credu y dylai pob plentyn gael y siawns i gymryd rhan, felly rydym ni’n cynnig pecynnau o goed yn rhad ac am ddim i bob ysgol gynradd yng Nghymru. Gall ysgolion gofrestru am y coed ar ein gwefan: www.woodlandtrust.org.uk/hedge.”

Dywedodd Ros Davies, Cydlynydd Cymunedau’n Gyntaf: “Mae’n wych o beth bod plant a phobl ifanc yn cael y cyfle i helpu creu'r goedwig hyfryd newydd hon. Rwy’n gobeithio y byddant yn helpu gofalu am yr amgylchedd yn y dyfodol.”

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?