S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn cyhoeddi Strategaeth Cynnwys

15 Hydref 2008

Mae S4C heddiw wedi cyhoeddi ei Strategaeth Cynnwys sydd wedi ei llunio ar gyfer y cyfnod pontio rhwng dechrau a diwedd y newid i ddigidol. Bwriad y Strategaeth yw darparu cynnwys gwasanaeth cyhoeddus o safon uchel ar gyfer cynulleidfaoedd yn yr oes aml-sianelog.

Mae'r newid i ddigidol yn digwydd yng Nghymru yn Awst 2009 a bydd wedi ei gwblhau yn gynnar yn 2010 – yr adeg hynny bydd S4C yn sianel uniaith Gymraeg.

Mae'r Strategaeth Cynnwys ar gyfer y cyfnod 2009-2013 ac mae ' n adeiladu ar gynllun Rhagoriaeth Greadigol S4C a lansiwyd yn 2004 ac a ail ddiffiniodd y Sianel yn barod am y newid i ddigidol. Mae ' r Strategaeth Cynnwys yn cyflwyno gweledigaeth y Sianel fel darparwr cynnwys dyfeisgar a gwreiddiol sy’n rhoi gwerth i gynulleidfaoedd.

Ar ôl y newid i ddigidol bydd S4C yn darparu gwasanaeth trwy gydol y dydd gyda chynnwys yn cael ei gomisiynu ar gyfer y bore, prynhawn, oriau brig ac yn hwyr gyda'r nos. Bydd cynnwys yn cael ei gyflenwi i S4C gan ei chadwyn gyflenwi – y sector cynhyrchu annibynnol (sy'n cynhyrchu mwyafrif ei rhaglenni), BBC Cymru ac ITV Cymru.

Mae'r Strategaeth yn datgan mai'r teledu fydd y prif gyfrwng ar gyfer cynulleidfaoedd am rai blynyddoedd i ddod. Fodd bynnag, mae cynnwys ar fand llydan hefyd yn rhan o wasanaeth S4C a bydd rôl gynyddol ar gyfer llwyfannau eraill wrth i'r Sianel ymdrechu i ymestyn ei dylanwad a'i chyrhaeddiad.

Mae'r Strategaeth wedi ei llywio gan ddewis cynulleidfa S4C. Mae ymchwil cynulleidfa yn dangos bod gwylwyr yn ystyried S4C yn Sianel ar gyfer Cymru gyda digwyddiadau cenedlaethol, chwaraeon a cherddoriaeth yn feysydd penodol sy'n cael eu cysylltu’n gryf â'r Sianel. Fe werthfawrogir S4C hefyd am gynrychioli bywyd gwledig a bywyd cyfoes Cymreig.

Dros y pum mlynedd nesaf fe fydd S4C yn:

Cryfhau ac yn buddsoddi yn ei darllediadau o ddigwyddiadau Cymreig – diwylliannol ac eraill;

Comisiynu rhaglenni sy'n dathlu tirwedd Cymru;

Cynnig drama, adloniant a cherddoriaeth o safon uchel;

Amserlennu cyfresi ffeithiol o bwys;

Rhoi sylw proffeil uchel i chwaraeon - yn enwedig rygbi a phêl-droed.

Mae'r prif feysydd darlledu cyhoeddus – newyddion, materion cyfoes a rhaglenni plant – wedi eu hadnabod yn gonglfeini parhaol. Bydd effaith datganoli, pwerau newydd i'r Cynulliad a'r newidiadau cymdeithasol a gwleidyddol sy'n digwydd yng Nghymru hefyd yn derbyn sylw mewn ystod o raglenni sydd yn llywio, egluro ac annog trafodaeth. Bydd Cyw, y gwasanaeth meithrin a lansiwyd yn ddiweddar, yn cael ei ddatblygu, fel y bydd cynnwys ar gyfer plant o bob oed.

Mae dysgwyr wedi eu hadnabod yn rhan bwysig o'r gynulleidfa a bydd gwasanaeth ar-lein S4C ar gyfer dysgwyr yn cael ei ddatblygu. Yn ogystal, bydd gwasanaethau mynediad yn rhoi cyfleoedd i fwy o bobl wylio S4C.

Erbyn 2012, bydd holl gynnwys S4C a gomisiynwyd yn cael ei gynhyrchu ar fformat Manylder Uwch.

Meddai Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C: "Mae'r Strategaeth wedi ei gwreiddio'n ddwfn yn rôl S4C fel darlledwr cyhoeddus. Ein bwriad yw parhau i ddarparu cynnwys o safon uchel ar gyfer ein cynulleidfa amrywiol trwy'r newid i ddigidol a thu hwnt.”

Gellir dod o hyd i Strategaeth Cynnwys S4C 2009-20013 trwy'r ddolen isod: http://www.s4c.co.uk/abouts4c/authority/

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?