S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn torri record gyda chwe enwebiad ar gyfer gwobrau Promax UK

20 Hydref 2008

Mae S4C wedi derbyn chwe enwebiad Promax UK eleni - y cyfanswm uchaf erioed o enwebiadau ar gyfer rhai o wobrau pwysicaf y byd marchnata a chynhyrchu teledu yn y Deyrnas Unedig.

Mae dau o’r chwe enwebiad ar gyfer yr ymgyrch i hyrwyddo arlwy Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2008 a gynhyrchwyd ar gyfer S4C gan y cwmni arobryn JM Creative. Mae ffilm hyrwyddo Yr Orsaf Drên wedi derbyn enwebiadau ar gyfer catgoriau’r Defnydd Gorau o Hiwmor a’r Chwaraeon Gorau.

Cwmni J M Creative hefyd gynhyrchodd y ffilm hyrwyddo yn y categori Dylunio Sain Gorau a oedd yn tynnu sylw at y gyfres corau rygbi Codi Canu.

Enwebwyd y cynhyrchydd hyrwyddo, Owain Morgan Jones yng nghategori Newydd Ddyfodiad Gorau am ymgyrchoedd Mona Lisa i hyrwyddo’r gyfres Sioe Gelf; ymgyrch Y Crochan Aur i hyrwyddo’r gyfres rasio harnes Rasus; a’r ffilm pyst pêl-droed ar gyfer ail lansio sioe bêl-droed S4C, Sgorio.

Mae S4C hefyd wedi derbyn cydnabyddiaeth am ymgyrch lansio Cyw, y gwasanaeth meithrin newydd, wrth dderbyn enwebiad ar gyfer y categori Traws Cyfryngau Gorau,

Enwebwyd tîm graffeg S4C am wobr Dylunio Gorau am yr ymgyrch Gwyrdd i hyrwyddo arlwy o raglenni ar faterion ‘gwyrdd’ ar y Sianel.

Meddai Prif Weithredwr S4C Iona Jones: "Rydym yn falch ein bod wedi derbyn cymaint o enwebiadau ar gyfer gwobrau Promax UK. Mae’r safonau’n codi trwy’r amser o safbwynt ein rhaglenni a’n hyrwyddo ac rydym yn falch bod ein hyrwyddo a’n graffeg ar y sgrin yn gosod safon newydd mewn rhagoriaeth greadigol wrth dderbyn y cyfanswm uchaf erioed o enwebiadau.”

Cynhelir noson wobrwyo Promax UK yng ngwesty’r Grosvenor House, Llundain ar 1 Tachwedd.

diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?