S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Becky Brewerton yn cynnig tips brenhinol i ddau golffwr ifanc, diolch i S4C

24 Hydref 2008

Mae dau chwaraewr golff ifanc ac addawol o Gymru wedi derbyn dosbarth meistr arbennig gan golffwraig orau Cymru, Becky Brewerton fel rhan o ysgoloriaeth S4C.

Mynychodd Katherine O’Connor o Bloxham, Swydd Rhydychen a Jamie Howie o Harlech, Gwynedd y dosbarth meistr yng Nghlwb Golff Royal Porthcawl.

Mae Katherine, 18, yn aelod o Dîm Rhyngwladol Merched Cymru, tra bod Jamie, 18, yn aelod o garfan Rhyngwladol Cartref Cymru.

Fe lwyddodd y ddau i ennill ysgoloriaeth S4C i helpu datblygu eu gyrfaoedd golff a gwella eu gêm. Un o uchafbwyntiau'r ysgoloriaeth, a weinyddir gan Undeb Golff Cymru ar ran S4C, yw’r dosbarth meistr.

Meddai Katherine, “Mae ennill ysgoloriaeth S4C wedi caniatáu imi ddatblygu fy ngyrfa mewn ffordd na fydden i wedi gallu hebddi. Mae’r arian wedi helpu fi i brynu offer ac i gystadlu yn y cystadlaethau mwyaf.”

Meddai Jamie, "Rwy wedi bod yn edrych ymlaen yn fawr at y dosbarth meistr gyda Becky Brewerton gan mai Becky yn un o fy arwyr i. Mae hi wedi llwyddo i roi Cymru ar y map a chwarae ar lefel uchel ar draws y byd."

Ychwanega Becky Brewerton, “Roeddwn yn falch iawn i gael gwahoddiad i gynnal dosbarth meistr gyda Jamie a Katherine - mae’r ddau yn olffwyr arbennig o dda. Katherine yw un o’r merched gorau yng Nghymru ar y foment ac rwy’n gobeithio bydd hi’n chwarae efo ni ar y gylchdaith yn y dyfodol, ac mae agwedd Jamie i lwyddo a gwella yn amlwg iawn wrth chwarae wrth ei ochr.”

Mae’r ysgoloriaethau yn un enghraifft o gefnogaeth S4C i golff. Mae’r Sianel hefyd yn noddi Pencampwriaeth Merched Ewrop Cymru S4C, a gynhelir yn y Peninsula Golf and Country Club ym Machynys ger Llanelli, fel rhan o bartneriaeth ehangach gyda Ryder Cup Wales 2010 Cyf.

Eleni lansiwyd y gyfres Golffio ar S4C, sy’n dangos rhai o dwrnamentau golffio mwya’r byd, gan gynnwys Teithiau Ewropeaidd ac UDA PGA. Bydd S4C hefyd yn darlledu rhaglen ragolwg awr o hyd o Gwpan Ryder 2010, yn ogystal ag uchafbwyntiau o’r gystadleuaeth fyd-enwog.

Meddai Geraint Rowlands, Golygydd Cynnwys Chwaraeon S4C: “Mae’r dosbarth meistr yn elfen hanfodol o’r profiad a ddaw gydag Ysgoloriaeth S4C. Does dim ffordd well na dysgu ochr-yn-ochr â chwaraewyr sydd ar y lefel uchaf. Rydym ni’n gobeithio bydd y dosbarth meistr yn helpu meithrin cenhedlaeth newydd o olffwyr Cymreig a fydd yn herio goreuon y byd ryw ddydd.”

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?