S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cynhyrchydd a Chyfarwyddwr Heroes yn cymryd rhan mewn hyfforddiant sgriptio yng Nghymru

31 Hydref 2008

Y penwythnos yma, 1 a 2 Tachwedd, bydd y cyfarwyddwr a’r cynhyrchydd adnabyddus o Hollywood, David Semel, yn un o’r enwau mawr sy’n cymryd rhan mewn Penwythnos Sgriptio wedi’i drefnu gan y cwmni cymorth hyfforddi Cyfle, mewn cydweithrediad ag S4C.

Gyda dros ddau ddegawd o brofiad, mae David yn cael ei ystyried yn un o’r Cynhyrchwyr/Cyfarwyddwyr mwyaf amryddawn a llwyddiannus yn y diwydiant adloniant ac yntau wedi gweithio ar ddramâu fel Heroes, House, Ally McBeal a Buffy the Vampire Slayer. Bydd yn cymryd rhan mewn sesiwn cwestiwn ac ateb fel rhan o’r digwyddiad a fydd yn cael ei gynnal yn adeilad Atrium Prifysgol Morgannwg yng nghanol Nghaerdydd.

Bydd llu o westeion o ledled y byd ac o Gymru hefyd yn cymryd rhan mewn ystod eang o sesiynau a fydd yn ymdrin â drama ac animeiddio. Mae’r cyfranwyr yn cynnwys:

• Ashley Pharoah

Cyd-grëwr a sgriptiwr rhai o ddramâu teledu llwyddiannus diweddar gan gynnwys Life on Mars ac Ashes to Ashes.

• Barbara Slade

Sgriptwraig sydd wedi cael ei henwebu am wobr Emmy 5 o weithiau am Rugrats, Angelina Ballerina, Rotten Ralph a Winnie the Pooh. Mae Barbara hefyd wedi ysgrifennu i Working Title a Disney.

• Joanna Quinn

Animeiddwraig sydd wedi cael ei henwebu am Oscar ddwywaith. Enillodd ei ffilm ddiwethaf i S4C, Dreams and Desires - Family Ties, wobrau lu gan gynnwys gwobr Cartoon d’Or- am y cartŵn gorau.

• Tim Wright

Yn gynhyrchydd a chyfarwyddwr rhyngweithiol, mae Tim wedi ennill dwy wobr BAFTA am ysgrifennu prosiectau rhyngweithiol: y disc hunangymorth Mind Gym a’r ddrama gwe ac e-bost, Online Caroline.

• Wyndham Price

Mae Wyndham wedi bod yn actio, ysgrifennu a chyfarwyddo ers mwy nag ugain mlynedd. Fe gwblhaodd ei ffilm gyntaf, Abraham’s Point, yn ddiweddar.

Meddai Dewi Wyn Williams, ymgynghorydd sgriptiau ar gyfer S4C, sy’n helpu trefnu’r digwyddiad: “Mae gennym ni restr wych o siaradwyr, a bydd y cwrs yn ysbrydoli, annog ac ysgogi sgriptwyr newydd a phrofiadol.“

Nodiadau Golygyddol

Mae’r cwmni cymorth hyfforddi Cyfle, yn dathlu ei ben-blwydd yn 21 eleni.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?