S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Sioe Nadolig Cyw a’i ffrindiau

11 Tachwedd 2008

 Bydd Sioe Nadolig Cyw a’i ffrindiau 2008 yn teithio i ddeuddeg o leoliadau ledled y wlad yn ystod mis Tachwedd a Rhagfyr i ddathlu’r Nadolig.

Bydd llu o wynebau cyfarwydd yn ymddangos yn y sioe, gan gynnwys Sali Mali, Hana o Holi Hana, Now o Ribidirês, Norman Preis, cymeriad Heini, Cyw ac wrth gwrs, Siôn Corn.

Meddai Eleri Twynog, Pennaeth Marchnata S4C, “Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un gyffrous dros ben gyda lansiad gwasanaeth meithrin newydd Cyw ar S4C, ac mae’r Daith Nadolig yn gyfle arbennig i’r gwylwyr ieuengaf gwrdd â rhai o’i hoff gymeriadau – gan gynnwys Cyw ei hun.”

Bydd pris mynediad o £3.00 i bawb, yn blant ac oedolion, a bydd system o archebu tocynnau ymlaen llaw yn weithredol trwy gysylltu â Gwifren Gwylwyr S4C ar 0870 6004141 (cost galwad cenedlaethol).

Dyma fanylion lleoliadau y Daith:

Tachwedd 21 Theatr Clera, Y Trallwng (10.30pm a 1.30pm)

Tachwedd 22 Ysgol y Berwyn, Y Bala (11.00pm a 2.00pm)

Tachwedd 23 Canolfan Addysg Bro Aled, Llansannan (11.00pm a 2.00pm)

Tachwedd 28 Theatr Harlech (10.30pm a 1.30pm)

Tachwedd 29 Y Galeri, Caernarfon (11.00pm, 1.00pm a 3.00pm)

Tachwedd 30 Pafiliwn Pontrhydfendigaid (12.00pm, 2.00pm a 4.00pm)

Rhagfyr 4 Theatr y Dolman, Casnewydd (10.30pm a 1.30pm)

Rhagfyr 5 Canolfan y Celfyddydau, Pontardawe (10.30pm a 1.30pm)

Rhagfyr 6 Ysgol y Fro, Y Barri (11.00pm, 1.00pm a 3.00pm)

Rhagfyr 12 Theatr Tudful, Merthyr Tudful (10.30pm a 1.30pm)

Rhagfyr 13 Theatr Gwaun, Abergwaun (11.00pm, 1.00pm a 3.00pm)

Rhagfyr 14 Theatr Haliwell, Caerfyrddin (2.00pm a 4.00pm)

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?