S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn ennill dwy wobr aur yn Promax UK

03 Tachwedd 2008

Mae S4C wedi cipio dwy wobr aur yng Nghynhadledd a Gwobrau Promax UK - prif ddigwyddiad marchnata a hyrwyddo teledu'r Deyrnas Unedig.

Mewn seremoni a gynhaliwyd yng ngwesty’r Grosvenor House yn Llundain nos Sadwrn, fe enillodd y sianel y wobr am y categori Chwaraeon Gorau ar gyfer ymgyrch yn hyrwyddo ei darllediadau o Bencampwriaeth y Chwe Gwlad 2008.

Fe gurodd y ffilm hyrwyddo ‘Yr Orsaf Drên’, a gynhyrchwyd ar gyfer S4C gan gwmni cynhyrchu arobryn J M Creative, ac a gyfarwyddwyd gan Rhys Evans, ymgyrchoedd yn hyrwyddo’r Gemau Olympaidd ac Euro 2008.

Fe enillodd S4C gategori’r Dylunio Sain Gorau ar gyfer ymgyrch ar y sgrin yn hyrwyddo ei chyfres canu corawl, Codi Canu, oedd yn dilyn ymdrechion corau o’r rhanbarthau rygbi ac o’r gogledd wrth iddynt gystadlu i adfywio canu ar y terasau.

J M Creative oedd yn gyfrifol am y Dylunio Sain ar y ffilm hyrwyddo, a oedd yn dangos y côr o Gaerdydd, CF1. Fe gurodd y ffilm ymgyrchoedd yn hyrwyddo Casualty a sioe Radio 1 Chris Moyles.

Fe dderbyniodd S4C chwe enwebiad Promax UK eleni, y cyfanswm uchaf erioed o enwebiadau.

Diwedd

Nodyn i’r golygydd:

Sefydlwyd Promax UK yn 1989 i helpu cynhyrchwyr hyrwyddo i ddatblygu eu sgiliau ac i wobrwyo eu llwyddiannau. Fe ysbrydolwyd y gynhadledd a gwobrau blynyddol gan y digwyddiad Promax blynyddol yn yr Unol Daleithiau.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?