S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyfle i Gyfansoddwyr Daro Nodyn Uchel - Cân i Gymru 2009

19 Tachwedd 2008

Galwodd Owen Powell, Cydlynydd Cerddorol cystadleuaeth Cân i Gymru 2009 S4C, ar gyfansoddwyr o Gymru a thu hwnt i fynd ati i gyfansoddi ar fyrder yn ystod lansiad swyddogol cystadleuaeth sy’n cynnig £10,000 fel prif wobr.

Sarra Elgan fu'n llywio'r lawns yn Venue Cymru, Llandudno, a Sarra hefyd fydd yn cyd-gyflwyno’r gystadleuaeth gyda Rhodri Owen Ddydd Gŵyl Dewi 2009 ar S4C. Yn ystod y lansiad, cyhoeddwyd bod Rhydian Roberts, a gyrhaeddodd rownd derfynol y gystadleuaeth The X Factor yn 2007, yn ymuno â phanel y beirniaid i ddewis y rhestr fer o wyth cân. Bydd Rhydian hefyd yn perfformio’n fyw ar sioe Cân i Gymru ar 1 Mawrth 2009.

Gwnaeth Owen Powell, gynt o Catatonia, wahodd aelodau o’r cyhoedd i ymgeisio am un lle ar banel beirniaid y gystadleuaeth. Bu Lowri Evans a Lee Mason, cystadleuwyr llwyddiannus yng ngornest 2008, yn perfformio eu cân ‘Ti a Fi’ yn ystod y lansiad.

Yn ogystal â derbyn gwobr o £10,000 a thlws arbennig Cân i Gymru, bydd yr enillydd yn cynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban-Geltaidd yn Iwerddon.

Gall cyfansoddwyr anfon eu caneuon ar ffurf CD, casét neu drwy gyfrwng MP3 ond rhaid hefyd anfon y ffurflen gais sydd ar gael ar wefan Cân i Gymru, www.s4c.co.uk/canigymru. Y dyddiad cau yw 31 Rhagfyr 2008. Rhaid i chi fod dros 16 oed i gystadlu.

Meddai Owen Powell: “Mae cynnal cystadleuaeth cyfansoddi cân yn ffordd wych o ddathlu Gŵyl Ddewi, yn enwedig yng Ngwlad y Gân. Mae Cân i Gymru yn gystadleuaeth unigryw sy’n rhoi cyfle i gyfansoddwyr newydd a mwy profiadol fel ei gilydd ennill cydnabyddiaeth ehangach ar gyfer eu gwaith. Rwy’n hyderus y bydd yr ymateb eleni yr un mor frwd ag y bu yn y blynyddoedd cynt.”

Cynhyrchir cystadleuaeth Cân i Gymru gan gwmni Avanti ar gyfer S4C.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?