S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Holi Hana yn cyrraedd rhestr fer gwobrau Broadcast 2009

02 Rhagfyr 2008

Mae Holi Hana, y gyfres animeiddio i blant ar S4C, wedi cael ei henwebu am un o brif wobrau’r diwydiant teledu, gwobrau Broadcast 2009.

Y cylchgrawn darlledu, Broadcast, sy’n cyflwyno’r gwobrau, sy’n cydnabod ac yn gwobrwyo rhagoriaeth mewn creu rhaglenni. Mae The Apprentice, Doctor Who, Gavin and Stacey, Strictly Come Dancing, Ramsey’s Kitchen Nightmares a Deal Or No Deal ymhlith y rhaglenni sydd wedi’u henwebu eleni

Mae Holi Hana, a gynhyrchir gan Calon TV yng Nghaerdydd, wedi’i henwebu yn y categori Rhaglen Blant Orau, ochr-yn-ochr ag Evacuation to the Manor House, Freefonix - Phantom of the Hip-Hopera, Hider in the House, Sorry, I’ve Got No Head a Summerhill.

Mae rhaglenni CBBC fel Balamory, My Life As A Popat, Charlie and Lola, Tracey Beaker a Newsround ar BBC 1, a My Parents are Aliens ar CITV ymhlith cyn enillwyr y categori.

Yn gynharach eleni, enillodd Holi Hana wobrau Bafta Cymru a’r Ŵyl Cyfryngau Celtaidd. Mae’r gyfres, sy’n dilyn helyntion hwyaden o’r enw Hana sy’n helpu anifeiliaid ifanc mewn cyfyng gyngor, hefyd wedi’i gwerthu i ddwsin o wledydd ledled y byd.

Meddai Emily Booth, Golygydd Gweithredol Broadcast: “Roedd yr ymgeiswyr eleni o safon uchel iawn, ac rydym felly’n llongyfarch pob rhaglen sydd wedi cyrraedd y rhestr fer.”

Meddai Robin Lyons, Rheolwr Gyfarwyddwr Calon TV: “Mae’n wych ein bod ni wedi cael ein henwebu, yn enwedig mewn categori mor eang â’r rhaglen blant orau.

Meddai Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C: “Mae Holi Hana wedi dod â boddhad mawr i blant ym mhedwar ban byd, ac mae’r anrhydedd ddiweddaraf hon yn atgyfnerthu enw da S4C a Calon TV ym maes animeiddio plant.”

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn y Broadcast Awards, un o brif ddigwyddiadau’r diwydiant darlledu, yn y Grosvenor House Hotel, Llundain, ar Ionawr 21.

Diwedd

http://www.broadcastawards.co.uk/shortlist.asp

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?