S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Enillwyr cystadleuaeth treilars S4C yn dathlu

09 Rhagfyr 2008

Mae tri gwyliwr lwcus ar ben eu digon ar ôl ennill treilars cwmni Ifor Williams mewn cystadleuaeth boblogaidd ar S4C.

Roedd y gyfres ffermio a chefn gwlad Ffermio yn cynnig tri threilar gan y cwmni adnabyddus o Gorwen, Ifor Williams Trailers Ltd. mewn cystadleuaeth arbennig dros yr hydref.

Roedd yn rhaid i'r enillwyr, a gafodd eu dewis ar hap o'r holl atebion cywir, geisio dyfalu'r gair cudd ar ôl ateb cyfres o gwestiynau.

Enillwyr y brif wobr oedd Elaine Edwards a'i merch Charlotte o Fryneglwys, Corwen, sydd bellach yn berchnogion hapus bocs ceffylau HB506.

Meddai Elaine Edwards: "Rydyn ni'n falch iawn ein bod wedi ennill y brif wobr yn y gystadleuaeth eleni. Mae Charlotte yn cymryd rhan mewn cystadlaethau neidio gyda'r ceffylau ac mae gennym ychydig o geffylau hela ac Adran B, felly fe fydd y bocs ceffylau'n ddefnyddiol iawn."

Glyndwr Lewis o Landeilo'r Fan, Pontsenni ger Aberhonddu enillodd yr ail wobr a'r treilar bocs ceffylau TA5. EgluroddGlyndwr Lewis: "Bydd y treilar yn ddefnyddiol iawn o gwmpas y fferm. Fy mab sy'n gwneud y rhan fwyaf o'r gwaith nawr ac rwy'n siŵr y bydd y treilar yn ddefnyddiol iawn iddo."

Bryn Evans o Lanrhystud ger Aberystwyth gafodd y drydedd wobr ac ennill treilar P5 newydd sbon. Dywedodd Bryn Evans: "Mae’n newyddion ardderchog. Mae gen i dyddyn yn ardal Llanrhystud a dwi'n cadw saith o geffylau, felly fe fydd y treilar bach yn ddefnyddiol ar gyfer cario'r offer a'r tac i gyd.

Ychwanegodd Richard Rees o gwmni Telesgop, cynhyrchwyr Ffermio: "Mae'r ymateb eleni wedi bod yn wych, gyda dros 3,000 wedi cystadlu, a 1,600 o'r rheiny'n benodol dros y we. Rydym yn ddiolchgar iawn i gwmni Ifor Williams am eu haelioni unwaith eto eleni ac yn llongyfarch yr enillwyr yn wresog.”

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?