S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Wendy yn disgleirio yng nghegin Casa Dudley

11 Rhagfyr 2008

Mae Wendy Thomas yn cyfaddef ei bod dal mewn sioc ar ôl ennill cystadleuaeth goginio Casa Dudley 2008.

Cafodd Wendy, sy’n 41 oed, ac sy’n dod yn wreiddiol o Bontnewydd ond sydd bellach yn byw yn Llanrug, Gwynedd, ei hannog i gymryd rhan yn y gystadleuaeth gan ei ffrindiau a oedd yn mwynhau ei choginio.

Roedd Wendy ei hun yn teimlo nad oedd hi’n ddigon da, ond ar ôl cryn berswâd, fe wnaeth gais i gymryd rhan yn y rhaglen, ac fe lwyddodd, er syrpreis mawr iddi ei hun, i gyrraedd y rowndiau terfynol yn Sbaen cyn mynd ymlaen i ennill y gystadleuaeth. Yn y frwydr goginio olaf fe gurodd Sion Owain Jones o Landegfan, Ynys Môn.

“Roedd gennym awr a thri chwarter i baratoi pryd tri chwrs a fyddai’n arddangos y sgiliau yr oeddem wedi eu dysgu yn ystod ein cyfnod yng nghegin symudol y Casa yn Ronda yn Sbaen,” esbonia Wendy, sy’n gweithio fel gweinyddydd i’r asiantaeth Cartrefi Cymru, a hefyd fel rheolwr blaen llawr i ganolfan Galeri yng Nghaernarfon.

“Mi wnaeth yr amser hedfan heibio. Roeddwn wedi bwriadu gweini couscous gyda’r cig oen fel prif bryd ond chefais i ddim amser i’w goginio!”

Mi wnaeth sgiliau Wendy yn y gegin, er hynny, blesio’r beirniaid. Y ddau feirniad oedd Benito Gomez o’r bwyty adnabyddus Tragabuches, a Sergi Arola, sydd â dwy seren Michelin i’w enw, ac sy’n amlwg iawn yn y byd cogyddol yn Sbaen. Mi wnaethon nhw drafod am awr a hanner cyn i enw’r enillydd gael ei gyhoeddi.

“Roedd yn teimlo fel ein bod wedi bod yn disgwyl am oes,” meddai Wendy, “ond nid oeddwn yn teimlo fy mod wedi gwneud yn ddigon da i ennill. Pan wnaethon nhw gyhoeddi fy enw roeddwn i’n methu â chredu’r peth! Doeddwn i ddim yn gallu meddwl yn syth.”

Gwobr Wendy yw wythnos, gyda gwersi, ym mwyty, gwesty moethus ac ysgol goginio enwog Raymond Blanc, Le Manoir aux Quat’Saisons.

“Ryw’n bwriadu mynd yno ym mis Chwefror, ac rwy’n edrych ymlaen yn ofnadwy. Dwi eisoes wedi bod ar eu gwefan, ac mae’n edrych yn wych. Rwy’n teimlo fy mod i’n breuddwydio!”

Mi wnaeth y chef Dudley Newbery, oedd yn cyd-gyflwyno’r gyfres eleni gydag Emma Walford, longyfarch Wendy ar ei champ.

“Mae wedi bod yn wych gweld y cogyddion amatur hyn yn datblygu eu sgiliau yn ystod y gyfres,”meddai Dudley. “Mae wedi bod yn waith caled i’r cystadleuwyr oherwydd bod yn rhaid iddynt addasu i weithio mewn cegin anghyfarwydd, a hefyd arfer â diwylliant coginio newydd. Dylai Wendy fod yn falch iawn ohoni ei hun, ac rwy’n siŵr y bydd yn mwynhau pob eiliad o’i harhosiad yn Le Manoir.”

diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?