S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Blwyddyn benigamp i Duffy

29 Rhagfyr 2008

Mewn cyfweliad ecsgliwsif ar gyfer rhifyn arbennig o gyfres cylchgrawn S4C i bobl ifanc, Uned 5: Gwobrwyo’r Goreuon, mae’r gantores bop Duffy yn siarad yn ddi-flewyn ar dafod am fywyd yn llygad y cyhoedd ac am gefnogi band Coldplay yn yr Unol Daleithau yn ddiweddar.

Mae Duffy, a ddaeth i frig i siartiau gyda’i sengl gyntaf Mercy ar ddechrau 2008, yn siarad yn agored yn y rhaglen, a ddarlledir 30 Rhagfyr am 4.00pm ar S4C.

“Mae’n anodd i chdi fod dy hun weithiau achos ma’ bobl yn sgwennu pethau yn y papurau ac mae’n rhaid i chdi newid i fod yn rhywun arall,” meddai.

Wrth siarad am ei chynlluniau, esbonia Duffy, “Dwi’n edrych ymlaen at ddiflannu am ychydig ac i wario bach o amser gyda’r teulu a chael ymlacio. Ers y flwyddyn ddiwethaf, dwi ‘di bod gartref i Nefyn unwaith, pan wnes i chwarae yn Llandudno. Ro’n i mewn bws enfawr ac roedd plant yn dod o bob man i weld fi. Roedd o’n carnage!”

Daeth y gantores i amlygrwydd yng nghyfres gyntaf WawFfactor ar S4C, ac ers hynny mae nifer o’i chaneuon wedi cyrraedd rhif un yn y siartiau. Mae ei halbwm, Rockferry, hefyd wedi cyrraedd rhif un yn siartiau’r albwm.

“Dwi mor hapus bo’ fi ‘di gwneud yr albwm, ro’dd hi’n freuddwyd. Dwi’n cymryd lot fawr o amser yn gwneud yn siŵr fod yr albwm yn adlewyrchu fy mhersonoliaeth a bod y gwrandawyr yn gallu dod i adnabod fi.”

Yn sgil llwyddiant Rockferry, estynnwyd gwahoddiad i Duffy gan Coldplay i gefnogi’r band ar daith Americanaidd. Meddai, “Gwnaethon nhw ffonio a dweud bo’ nhw’n mwynhau be’ oedden i’n gwneud. Ro’n i yn America felly roedd yn gwneud synnwyr i greu British invasion. Buasa fo’n neis cael Welsh invasion yn y dyfodol!”

Bydd Duffy i’w gweld ar y rhaglen yn derbyn gwobr arbennig yn Washington gan gyflwynydd Uned 5, Rhydian Bowen Phillips.

Hefyd yn y rhaglen, bydd y cyflwynydd Mari Lovgreen yn cyfarfod cyflwynydd The X Factor Dermot O’Leary, sy’n ennill y wobr am Y Cyflwynydd Saesneg Gorau. Enillydd gwobr Pêl-droediwr y Flwyddyn yw Asgellwr Manchester United, Cristiano Ronaldo, ac mae’n falch dros ben o dderbyn gwobr sydd wedi’i hennill sawl gwaith yn y gorffennol gan ei gyd-chwaraewr, Ryan Giggs.

Ymysg yr enillwyr eraill yn y rhaglen wobrwyo flynyddol yw Chwaraewr y Flwyddyn IRB Shane Williams, y Paralympiwr David Roberts, yr Olympiwr David Davies, cyflwynydd Sioe Gelf ac C2 Lisa Gwilym, y gyfres gomedi Gavin & Stacey, y gyflwynwraig amryddawn Sarra Elgan, yr opera sebon EastEnders a’r band Cymreig, Sibrydion.

Uned 5: Gwobrwyo’r Goreuon

Mawrth, 30 Rhagfyr, 4.00pm

Hefyd, Nos Galan, 5.50pm

Isdeitlau Saesneg ar gael

Gwefan: s4c.co.uk/uned5

Bandllydan: s4c.co.uk/clic

Cynhyrchiad Antena ar gyfer S4C

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?