S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Holi Hana yn ennill gwobr Brydeinig o bwys

22 Ionawr 2009

Mae’r animeiddiad i blant, Holi Hana, a ddarlledir ar S4C ac sy’n rhoi hanes hwyaden arbennig sy’n helpu anifeiliaid ifanc i ddatrys problemau emosiynol, wedi ennill un o brif wobrau’r diwydiant darlledu yn y Deyrnas Unedig.

Mae’r gyfres, a gynhyrchir yng Nghaerdydd gan gwmni Calon TV, wedi ennill categori’r Rhaglen Blant Orau yng Ngwobrau Broadcast 2009, gan guro cystadleuaeth ffyrnig gan bump rhaglen arall ar y rhestr fer a ddarlledir ar CBBC.

Mae Holi Hana, a enillodd wobrau Animeiddio Gorau yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd a Bafta Cymru y llynedd, wedi’i gwerthu i oddeutu 30 o wledydd ledled y byd. Mae’n gydgynhyrchiad rhwng Calon TV, S4C, Cronfa ED Creadigol Cymru, Five ac MG Alba yn yr Alban.

Dyma’r tro cyntaf i raglen S4C ennill gwobr yn y digwyddiad o bwys hwn, sy’n cael ei drefnu gan y cylchgrawn darlledu, Broadcast, er mwyn adnabod a gwobrwyo rhagoriaeth yn y maes cynhyrchu rhaglenni.

Meddai Robin Lyons, Rheolwr Gyfarwyddwr Calon TV, “Rwy’n falch dros ben, ar ran fy hunan, y tîm yn Calon TV ac S4C. Yn ystod y cyfnod anodd hwn, mae’n dangos sut y gall rhaglenni o safon uchel gael eu creu pan fo darlledwyr yn y DU, yn yr achos yma S4C, Five ac MG Alba yn Yr Alban, yn cydweithio.”

Ychwanegodd Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, “Holi Hana yw’r llwyddiant diweddaraf sy’n deillio o draddodiad cryf S4C ym maes rhaglenni meithrin ac mae’n chwarae rhan bwysig yn amserlen ein gwasanaeth newydd ar gyfer plant bach, Cyw.”

Roedd y comedi Gavin & Stacey a’r rhaglenni ffeithiol poblogaidd The Apprentice a The Choir ymhlith yr enillwyr eraill. Cyflwynwyd y noson gan y digrifwr o Gymru, Rob Brydon.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?