S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Paul Potts ar Wedi 7

01 Mehefin 2009

 Y tenor o Bort Talbot ac enillydd Britain’s Got Talent 2007 yw’r gwestai ar Wedi 7 nos Lun, 1 Mehefin, 7:00pm.

Yn ystod y rhaglen, bydd Paul, 38, yn siarad am ei ail albwm, Passione, sy’n cael ei ryddhau ar 1 Mehefin. Bydd hefyd yn rhoi blas ohoni drwy ganu ar Wedi 7.

Bydd Paul hefyd yn rhannu ei brofiadau ar Britain’s Got Talent a sut mae ei fywyd wedi newid yn gyfan gwbl ers hynny. Mae dros tair a hanner o filiynau o’i albwm cyntaf wedi’u gwerthu.

Dywedodd golygydd a chyflwynydd Wedi 7, Angharad Mair: “Rydym wrth ein bodd fod Paul yn ymuno â ni yn y stiwdio am gân a sgwrs.

“Mae ei lais unigryw wedi diddanu cynulleidfaoedd ar hyd a lled y byd, ac rwy’n edrych ymlaen at ei glywed yn canu yn y stiwdio.”

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?