S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Gwobrau Un Byd yn gwobrwyo rhaglen S4C

26 Mehefin 2009

Mae rhaglen yng nghyfres ddogfen S4C O’r Galon wedi ennill un o brif wobrau’r seremoni Gwobrau Un Byd 2009 - One World Media Awards 2009 - sy’n anrhydeddu’r cynnyrch gorau yn y cyfryngau yn y byd datblygol.

Enillodd O’r Galon: Canfod Hedd, sy’n portreadu teulu o Kenya wrth iddynt ymgartrefu yng ngogledd Cymru, y Wobr Cyfryngau Lleol.

Mae’r rhaglen yn bortread o ddwy chwaer, Lydia, 18 oed, a Rebecca, 16, eu mam, Jane a’u tad, y Cymro, Hedd Vaughan Thomas, wrth iddynt symud o Nairobi i fyw i Bwllheli.

Bu camerâu tîm Cwmni Da yn dilyn y teulu am dros flwyddyn wrth i Hedd addasu i fywyd yng Nghymru ar ôl 26 mlynedd yn gweithio i elusennau sy’n helpu gwella ansawdd bywyd pobl mewn gwledydd y Trydydd Byd, yn bennaf yn Affrica.

Mae’r ffilm yn dilyn Lydia wrth iddi fynychu coleg chweched dosbarth Coleg Meirion Dwyfor, Rebecca, disgybl yn ysgol uwchradd Ysgol Glan y Môr, a’u mam, wrth iddi ddechrau swydd fel gweithwraig gofal gyda phobl mewn oed.

Roedd y beirniaid ar reithgor Gwobrau Un Byd 2009 wedi’u calonogi gan y ffyrdd difyr a chreadigol a ddefnyddiwyd i gyflwyno straeon o’r gymuned fyd-eang. Dywedodd y rheithgor bod O’r Galon: Canfod Hedd “yn ffilm swynol, wedi’i chynhyrchu’n gelfydd, sy’n dangos bod adrodd stori mewn ffordd ddychmygus yn gallu rhoi sylw i faterion rhyngwladol ar lwyfan lleol. Mae’n becyn rhagorol, sydd wedi’i olygu a’i gynhyrchu’n wych.”

Meddai Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, “Drwy gyflwyno stori Hedd Vaughan Thomas a’i deulu, a roddodd rhwydd hynt i’r camerâu gofnodi eu profiadau a’u teimladau wrth symud i Gymru, mae’r gwylwyr wedi ennill dealltwriaeth newydd o hunaniaeth Gymreig, yn ogystal â blas ar ddiwylliant cwbl wahanol. Mae hon yn rhaglen afaelgar ac rwy’n hynod falch fod gwaith Cwmni Da wedi’i gydnabod gan y gwobrau pwysig hyn.”

Ychwanegodd Neville Hughes, Uwch Gynhyrchydd gyda Cwmni Da, “Mae derbyn y wobr hon yn destun balchder mawr inni. Fe weithiodd y tîm cynhyrchu’n galed i greu rhaglen deledu gofiadwy a pherthnasol ac mae’n braf cael canmoliaeth gan y beirniaid. Mae gan y cyfrwng teledu rôl allweddol i’w chwarae wrth gynyddu dealltwriaeth am faterion yn ymwneud â hil a chenedligrwydd ac mae’n galonogol i ddeall bod y rhaglen hon efallai wedi cynyddu’r ddealltwriaeth hon.”

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?