S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Dai yn chwilio am ffermwr gorau Cymru

21 Gorffennaf 2009

Fe fydd ffermwr enwocaf Cymru ac un o gyflwynwyr mwyaf poblogaidd S4C yn ymgymryd â rol tra gwahanol yn ystod y misoedd nesaf.

Cyhoeddir yr wythnos hon mai Dai Jones, Llanilar fydd un o feirniaid swyddogol Fferm Ffactor, cyfres newydd a chyffrous a ddarlledir ar S4C yn yr hydref.

Mae gwylwyr S4C wedi hen arfer gweld Dai yn ymweld â ffermwyr ar hyd a lled Cymru yn ei gyfres boblogaidd Cefn Gwlad. Ond sut bydd yn ymdopi â gwneud penderfyniadau anodd wrth feirniadu’r deg fydd yn ymgeisio am deitl Ffermwr Gorau Cymru a’r brif wobr o gerbyd 4x4 Isuzu Rodeo Denver newydd sbon?

Yn ymuno â Dai fel beirniad ac i gadw llygaid barcud ar y cystadlu bydd yr Athro Wynne Jones, Pennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Amaethyddol Harper Adams yn Swydd Amwythig. Ac yn cadw pen rheswm rhwng y ddau, ac yn sicrhau eu bod yn dod i benderfyniad fydd y gyflwynwraig Daloni Metcalfe.

Bob wythnos ar Fferm Ffactor bydd yr ymgeiswyr yn gorfod profi eu gallu yn y maes amaethyddol trwy berfformio cyfres o dasgau fel didoli defaid, gyrru tractor a barnu da byw. Yn ogystal, bydd un her yn profi eu doniau y tu hwnt i ffiniau’r fferm ac yn rhoi’r cyfle iddyn nhw arddangos sgiliau personol fel arwain tîm, negydu a chreadigrwydd marchnata.

Ar ddiwedd bob rhaglen bydd gan y beirniaid y dasg anodd o gael gwared ar un cystadleuydd, gan chwalu eu breuddwydion.

“Mi rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at feirniadu’r gyfres gyffrous yma,” meddai Dai Jones. “Mi fydd yn gyfle i’r gwylwyr weld pa mor amrywiol a heriol yw gwaith y ffermwr heddiw, a chymaint mae’r diwydiant wedi datblygu dros y blynyddoedd,” meddai.

Hoffech chi fod yn un o’r 10 ymgeisydd fydd yn cystadlu am y wobr o gerbyd 4x4 a theitl Ffermwr Gorau Cymru 2009? Os felly, cysylltwch â thîm Fferm Ffactor, Cwmni Da, Cae Llenor, Lôn Parc, Caernarfon, Gwynedd LL55 2HH neu ffoniwch (01286) 685300 neu’r e-bost lowri.evans@cwmnida.tv. Y dyddiad cau yw Gorffennaf 31, 2009.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?