S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C i ddarlledu’r Sioe am y 4 blynedd nesaf

23 Gorffennaf 2009

  Ar ddiwedd wythnos llawn bwrlwm ar faes y Sioe ac ar y sgrin, mae S4C wedi cyhoeddi cytundeb newydd pedair blynedd o hyd gyda Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru Cyf.

Fel rhan o’r cytundeb, bydd S4C yn parhau i ddarlledu’n helaeth o’r Sioe Frenhinol, yn ogystal â’r Ffair Aeaf a’r Sioe Tyddyn a Gardd.

Bydd S4C yn cyhoeddi tendr ar gyfer cynhyrchu’r darllediadau ar 1 Medi, ar s4c.co.uk/cynhyrchu.

Meddai Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, “Mae’r Sioe Frenhinol yn uchafbwynt blynyddol i wylwyr S4C, a diolch i’r cytundeb hwn byddwn yn parhau i gynnig darllediadau byw ac estynedig o’r Sioe, yn ogystal â digwyddiadau eraill a gynhelir ar y safle yn Llanelwedd, megis y Sioe Tyddyn ac Ardd.

“Mae arwyddo’r cytundeb newydd yn adlewyrchu’r pwyslais mae’r Sianel yn rhoi ar ddarlledu digwyddiadau byw o ddiddordeb Cymreig. Mae’r cytundeb hefyd yn adlewyrchu ein hymlyniad i amaethyddiaeth a materion gwledig yng Nghymru.”

Meddai David Walters, Prif Weithredwr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, “Rydym yn falch iawn i barhau â’n perthynas hir gydag S4C sydd wedi para ers ei dechreuad, ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio gyda’r sianel yn y dyfodol. Mae S4C yn darparu darllediadau helaeth o ddigwyddiadau’r Gymdeithas Amaethyddol, sy’n cael eu gwerthfawrogi gan y Gymdeithas a gwylwyr ledled Cymru a thu hwnt.”

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?