S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Mwy o rygbi yn yr oriau brig ar S4C

30 Gorffennaf 2009

Mae S4C am ddarparu mwy o rygbi byw o’r Cynghrair Magners ac Uwch Gynghrair Principality Cymru yn ystod yr oriau brig gydol tymor 2009-2010.

Bydd rhaglen rygbi’r Sianel, Y Clwb Rygbi yn darlledu’n fyw ar nosweithiau Sadwrn ychydig yn ddiweddarach am 6.00pm, gyda’r gemau’n dechrau am 6.30pm. Bydd cic gyntaf gemau dydd Sul am 5.05pm, gydag amser dechrau’r rhaglen am 4.55pm.

Cafodd amserlen gemau'r Cynghrair Magners ei datgelu heddiw (Iau, 30 Gorffennaf) gan y trefnwyr Celtic Rugby, gyda gêm gyntaf fyw S4C ar Y Clwb Rygbi nos Sadwrn, 5 Medi rhwng y Scarlets a Leinster ym Mharc y Scarlets. Bydd y rhaglen yn dechrau am 6.00pm a’r gic gyntaf am 6.30pm.

Ymhlith yr uchafbwyntiau yn ystod y tymor bydd darllediad byw o gêm Rownd Derfynol y Cynghrair Magners ar 28 Mai.

Mae gemau byw eraill S4C ar ddechrau’r tymor yn cynnwys Gweilch v Ulster nos Sadwrn, 12 Medi, Glasgow Warriors v Scarlets ddydd Sul, 13 Medi, Scarlets v Munster ddydd Sadwrn, 19 Medi a’r gêm gyntaf erioed rhwng Gleision Caerdydd a’r Scarlets o stadiwm newydd dinas Caerdydd ddydd Sadwrn, 26 Medi.

Bydd gemau eraill o’r Cynghrair Magners yn cael eu darlledu’n fyw gan BBC Cymru Wales a Setanta Ireland, gydag S4C yn darlledu nifer o gemau o Gynghrair Principality Cymru hefyd.

Meddai Geraint Rowlands, Golygydd Cynnwys Chwaraeon S4C: “Y tymor hwn bydd rhaglen rygbi S4C, Y Clwb Rygbi yn darparu mwy o rygbi byw yn ystod yr oriau brig nag erioed o’r blaen. Fe ddylai’r gemau ar amser ychydig yn hwyrach ar nosweithiau Sadwrn a Sul fod yn boblogaidd gyda’n dilynwyr rygbi a hybu proffeil y cynghreiriau’n fwy fyth.”

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?