S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Ymestyn gwasanaethau plant S4C

30 Gorffennaf 2009

Yn dilyn llwyddiant lansiad gwasanaeth meithrin S4C, Cyw, yn 2008, mae’r Sianel wedi troi ei golygon at blant hŷn, gan wobrwyo cytundeb newydd tair blynedd o hyd.

Cwmni Boomerang+ sydd wedi ennill y cytundeb, mewn cystadleuaeth agored, i gynhyrchu cynnwys a dolenni ar gyfer plant hŷn.

Bydd y cwmni yn gyfrifol am ddarparu o leiaf 156 awr o raglenni gwreiddiol y flwyddyn, yn ogystal â’r dolenni rhwng y rhaglenni. Bydd y gwasanaeth yn cael ei ddarlledu rhwng 4.00pm a 6.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, gydag oriau ychwanegol ar y penwythnos.

Bydd y gwasanaeth newydd, sy’n apelio at blant rhwng 7 a’r arddegau cynnar, yn cynnwys elfen ryngweithiol a chynnwys ar gyfer llwyfannau eraill fydd yn cyfoethogi’r profiad gwylio. Bydd yn cael ei gyflwyno ym mis Ebrill 2010.

Meddai Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, “Mae hyn yn ddatblygiad hynod gyffrous i S4C yn dilyn llwyddiant lansiad Cyw y llynedd.

“Mae cyflwyno plant yn gynnar i S4C yn annog teyrngarwch i’r Sianel ac i’r Gymraeg, ac mae’r cam diweddaraf hwn yn adlewyrchu cryfder S4C yn y maes, yn ogystal â rôl gwasanaeth cyhoeddus y Sianel.”

Meddai Huw Eurig Davies, Prif Weithredwr Grŵp Boomerang, “Mae gan Boomerang brofiad helaeth ym maes rhaglenni plant, ac ar hyd y blynyddoedd ry’n ni wedi cynhyrchu rhaglenni poblogaidd i S4C. Nawr, rydym yn edrych ymlaen at yr her newydd fydd yn cychwyn ymhen ychydig fisoedd.”

Bydd y gwasanaeth newydd yn ddyfeisgar, gwreiddiol, ffres a hyderus a bydd yn cynnwys ystod o raglenni o wahanol feysydd. Bydd pwyslais ar roi cyfle i blant gyfrannu ac ymateb.

S4C fydd yn parhau i amserlennu cynnwys y gwasanaeth ac fe fydd S4C hefyd yn parhau i gomisiynu nifer cyfyngedig o raglenni gwreiddiol ar gyfer yr oedran yma y tu allan i’r cytundeb. Bydd y gwasanaeth yn cael ei ddarlledu ar S4C ac ar y we.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?