S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Bron miliwn o wylwyr yn troi at ddarllediadau S4C o ddigwyddiadau’r haf

10 Medi 2009

   Fe wnaeth bron i filiwn o bobl ar draws y Deyrnas Unedig droi at raglenni byw ac uchafbwyntiau S4C o wyliau amrywiol Cymru dros yr haf.

Roedd darllediadau o Eisteddfod yr Urdd, yr Eisteddfod Genedlaethol, Sioe Frenhinol Llanelwedd, Eisteddfod Ryngwladol Gerddorol Llangollen, Gŵyl Wakestock a Rasus Trecoed ymhlith y darllediadau hynny a ddenodd cyrhaeddiad o 979,000.

Mae’r ffigwr hwn wedi cyfrannu at gynnydd yn nifer gwylwyr S4C dros yr haf o'i gymharu â haf 2008.

Mae ffigurau gwylio S4C, sy'n cael eu mesur gan y corff mesur gwylwyr BARB, yn dangos bod cyfartaledd miloedd rhaglenni S4C yn yr oriau brig 10% yn uwch fis Awst yma na mis Awst y llynedd. Roedd ffigurau gwylio’r oriau brig ar gyfer mis Gorffennaf 2009 flwyddyn-ar-flwyddyn 11% yn uwch hefyd.

Fe wnaeth tair cyfres newydd ar gyfer yr haf, Bro, Cofio a Ralïo+, rhyngddynt ddenu cyrhaeddiad o fwy na chwarter miliwn o bobl dros yr haf.

Un o’r llwyddiannau mwyaf oedd y gyfres Bro, cynhyrchiad cwmni Telesgôp, lle mae Iolo Williams a Shân Cothi yn ymweld â gwahanol fröydd yng Nghymru. Fe ddenodd y gyfres o wyth rhaglen gyrhaeddiad o 212,000 o bobl.

Cyfres arall wnaeth daro tant gyda'r gwylwyr oedd Cofio, lle mae Heledd Cynwal yn cyfweld â phobl adnabyddus gan ddangos cyfres o ffilmiau archif amdanynt. Fe wnaeth y gyfres, a gynhyrchir gan ITV Cymru, dderbyn cyrhaeddiad o 179,000 o bobl.

Y newydd da i wylwyr Bro a Cofio yw y bydd y ddwy gyfres yn dychwelyd am ail gyfresi yn nes ymlaen yn yr hydref dan faner Crwydro Cymru, tymor o raglenni yn dathlu ein cymunedau, cymeriadau, diwylliant a thirwedd.

Rhaglen arall sydd wedi llwyddo trwy grwydro i wahanol ardaloedd yw Ralïo+, sydd bellach yn bwrw golwg ar straeon lleol yn ogystal â chystadlaethau ceir a motobeics. Mae’r gyfres, a gynhyrchir gan P.O.P.1., hyd yn hyn wedi derbyn cyrhaeddiad o 150,000, a sicrhau cynnydd o 70% yn nifer y gwylwyr o'i chymharu â’r gyfres Ralïo yn yr un cyfnod y llynedd.

Meddai Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, Rhian Gibson: “Gallwn ymfalchïo ym mherfformiad rhagorol ein rhaglenni dros yr haf.

“Mewn cyfnod heriol yn y byd darlledu, gyda’r newid i ddigidol ar droed a’r sianeli i gyd yn wynebu cystadleuaeth gynyddol, mae S4C wedi cadw’i gwylwyr a’u cynyddu o’u cymharu â haf 2008. Gallwn edrych ymlaen yn hyderus at yr hydref, gyda’n hamserlen gyffrous yn cynnig ystod o gyfresi newydd a ffefrynnau. Ar ben hyn, bydd tair cyfres a berfformiodd mor dda dros yr haf, Bro, Cofio a Ralïo+ yn cael lle amlwg yn yr amserlen.”

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?