S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Ffilm gan S4C yn ennill prif wobr yn yr Unol Daleithiau

08 Hydref 2009

Ar ôl ennill llu o wobrau BAFTA Cymru yn gynharach eleni, mae ffilm bwerus S4C am etifeddiaeth deuluol a thorcalon yng nghefn gwlad Cymru, Martha, Jac a Sianco wedi dod i’r brig mewn gŵyl ffilm ryngwladol flaenllaw.

Mae’r cynhyrchiad, addasiad o nofel Caryl Lewis o’r un enw, wedi ennill y Wobr Ffilm Naratif yng Ngŵyl Ffilm Moondance, a gynhelir yn Boulder, Colorado, UDA.

Mae’r ŵyl, sy’n dathlu ei degfed pen-blwydd eleni, yn cael ei hadnabod fel ‘Cannes America’ a’i phrif nod yw cyflwyno ffilmiau a sgriptiau sy’n codi ymwybyddiaeth am bynciau cymdeithasol o bwys.

Meddai Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C: “Mae’r ffilm drawiadol hon yn adlewyrchu strategaeth ffuglen S4C, sy’n cynnig llwyfan i awduron a chyfarwyddwyr herio cynulleidfaoedd trwy gyfrwng cynnwys blaengar a gwreiddiol.

“Mae’r ffilm wedi saethu’n wych ac mae’n ymdrin â themâu perthnasol, gafaelgar. Mae ’na berfformiadau pwerus ynghyd â thrac sain cyfareddol, ac rwy’n falch iawn ei bod hi wedi’i chydnabod yn yr ŵyl ffilm annibynnol adnabyddus hon.”

Meddai cynhyrchydd Martha, Jac a Sianco, Lona Llewelyn Davies: “Rydym yn falch iawn o dderbyn gwobr mewn gŵyl mor amlwg a phwysig â Moonstone. Rwy’n credu bod Martha, Jac a Sianco wedi taro tant am fod ganddi neges gymdeithasol gref am fywyd cefn gwlad mewn cenedl fach. Yn dilyn llwyddiant yng ngwobrau BAFTA Cymru gartre’, mae’n anrhydedd cael cydnabyddiaeth ryngwladol.”

Cynhyrchwyd Martha, Jac a Sianco ar gyfer S4C gan Apollo, rhan o Boomerang Plus plc. Enillodd chwech o wobrau Bafta Cymru yn gynharach eleni, gan gynnwys y wobr am yr Actores Orau ar gyfer Sharon Morgan, a’r Actor Gorau ar gyfer Ifan Huw Dafydd.

Enillodd gategorïau’r Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth Gorau: Drama, Y Cynllunio Gorau, Y Coluro Gorau a’r Trac Sain Cerddorol Gwreiddiol Gorau.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?