S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Clod y Gadair i’r Bala

16 Hydref 2009

Wedi siom y gadair wag yn Eisteddfod Y Bala eleni, mae’r dref yn dathlu wrth i un o’i meibion gipio cadair Mastermind Plant Cymru 2009. Heno (nos Iau, Hydref 15) coronwyd Joseff Glyn Owen yn enillydd y gyfres wedi iddo serennu wrth ateb cwestiynau yn y gadair ddu eiconig.

Roedd Joseff, sy’n 11 oed ac yn ddisgybl yn Ysgol y Berwyn, yn un o bump o blant disglair Cymru i gyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth uchel ei bri, ac mewn rownd derfynol agos iawn, ef hawliodd anrhydedd a bri teitl Mastermind Plant Cymru.

Yn y rownd gyntaf fe atebodd Joseff gwestiynau ar y llyfrau o Gyfres Gwaed Oer ond rhaglenni C’mon Midffid oedd testun ei sylw ar gyfer y rownd derfynol, comedi a gafodd ei darlledu cyn ei eni.

“Mae pawb yn licio C’mon Midffild ac mae wedi bod yn ddoniol ers iddo gael ei wneud a bydd yn dal yn ddoniol mewn blynyddoedd i ddod.

“Mae pob un cymeriad yn gymeriad mor gryf ac mae’r sgwennu’n anhygoel hefyd,” dywed Joseff sydd yntau yn rhan o Sgwad Sgwennu Gwynedd.

Fel y gwŷr pawb sydd wedi cael y profiad o eistedd yn y gadair ddu o dan y llif oleuadau, mae’r ateb cwestiynau yno yn go wahanol i’w hateb o gysur y cartref. Ond fe lwyddodd Joseff i ymlacio ac ymddangos yn gwbwl gartrefol o dan y pwysau ac yntau wedi hen arfer â pherfformio o flaen cynulleidfa.

“Dwi’n actio mewn clwb yn y Bala ac fe wnes i gymryd rhan yn y pasiant yn steddfod y Bala,” esbonia am ei brofiadau ar y llwyfan.

Roedd hi’n rownd derfynol gyffrous iawn a’r stiwdio’n llawn tensiwn wrth i Joseff ddod i frig y gystadleuaeth gyda dim ond un pwynt yn ei wahanu yntau a Rhys o Gaerdydd.

“Do’n i ddim yn siŵr o ateb y cwestiwn olaf felly nes i guessio fo!” dywed gan chwerthin. “O’n i’n clywed pobl yn gweud ‘wwww…’ ar ôl i fi gael o’n iawn. Do’n i ddim yn cyfri’r sgôr ar y pryd ond yn trio canolbwyntio ar ateb y cwestiynau.”

“Dwi wedi mwynhau’n fawr. Mi oedd o’n waith caled i baratoi ar gyfer y rowndiau ond mae wedi bod yn hwyl yn enwedig cyfarfod y bobl eraill.”

Os hoffech chi gyfle i brofi’ch gwybodaeth yn y gadair ddu flwyddyn nesaf, ewch i bbc.co.uk/mastermindcymru am wybodaeth pellach.

Bydd cyfle i fwynhau holl gyffro’r rownd derfynol am yr eil dro ar Planed Plant

Mastermind Plant Cymru, Dydd Llun, Hydref 19, BBC Cymru ar S4C, 5.15pm

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?