S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cydnabyddiaeth Brydeinig i wasanaeth Cyw S4C

27 Hydref 2009

Bydd gwasanaeth arloesol S4C ar gyfer y gwylwyr iau, Cyw, yn herio rhai o enwau mwyaf y byd teledu yn y Gwobrau Bafta Plant Prydain eleni.

Bydd y gwasanaeth, a lansiwyd ym Mehefin 2008, yn mynd ben ben â CBBC, CBeebies a NickJr yn y categori Sianel y Flwyddyn.

Mae Rhestr Nadolig Wil, cynhyrchiad Boomerang ar gyfer S4C, hefyd wedi’i enwebu yn y categori drama, a bydd yn wynebu cystadleuaeth o du amryw o gynyrchiadau, gan gynnwys The Sarah Jane Adventures, a ddarlledir ar CBBC.

Mae Cyw yn cael ei ddarlledu o ddydd Llun i ddydd Gwener, o 7.00am-1.30pm ar S4C digidol. Mae’r gwasanaeth ar gael ledled y Deyrnas Unedig ar deledu lloeren ddigidol a gellir gwylio’r mwyafrif o raglenni ar-lein. Mae gwefan fywiog yn cyd-fynd â’r gwasanaeth, s4c.co.uk/cyw, ac mae isdeitlau Saesneg ar gael.

Rhaglenni gwreiddiol sydd wrth galon Cyw, gan gynnwys ffefrynnau megis yr animeiddiad Holi Hana, y gyfres ffitrwydd Heini, ac ABC, rhaglen sy’n cyflwyno’r wyddor mewn ffordd hwyliog, a enillodd wobr y Gymdeithas Deledu Frenhinol yn gynharach eleni.

Meddai Iona Jones, Prif Weithredwr S4C, “Roedd lansiad Cyw yn garreg filltir bwysig i S4C, i ddarlledu Cymraeg ac i deledu plant yn gyffredinol yn y Deyrnas Unedig.

“Fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus, mae S4C yn credu bod darlledu ar gyfer plant yn rhan hanfodol o’i ddyletswyddau, a Cyw yw’r cam cyntaf yn ein strategaeth i ehangu ein darpariaeth ar gyfer plant o bob oed.

“Rwyf wrth fy modd fod yr holl waith caled ar Cyw – sydd wedi cael croeso cynnes iawn gan blantos a’u rhieni – wedi dwyn ffrwyth a bod S4C wedi’i gydnabod gan y digwyddiad pwysig hwn.”

Cynhelir y Gwobrau Bafta Plant yn Llundain ar 29 Tachwedd.

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?