S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C i ddarlledu rygbi Eingl-Gymreig

29 Hydref 2009

Bydd S4C yn darlledu nifer o gemau'r Gwpan LV= yn fyw ac yn egscliwsif, yn ogystal ag uchafbwyntiau estynedig.

Dros y ddau dymor nesaf, bydd y Sianel yn darlledu hyd at bum gêm fyw o’r rowndiau cynnar, tra bydd uchafbwyntiau o’r rowndiau cynderfynol a therfynol hefyd ar gael ym mis Mawrth 2010.

Bydd darllediadau S4C o’r gystadleuaeth yn cychwyn nos Wener, 6 Tachwedd, yn ystod penwythnos agoriadol y Gwpan Eingl-Gymreig o Barc Rodney, Casnewydd wrth i’r Dreigiau croesawi Sale. Bydd y gêm rhwng Caerfaddon a’r Gweilch o Faes Recreation yn cael ei ddarlledu dros ail benwythnos y gystadleuaeth. Bydd gemau byw eraill ar gael yn ystod penwythnosau 3 a 4 yn y Flwyddyn Newydd.

O ddydd Sadwrn, 7 Tachwedd, bydd Cyfres Invesco Perpetual yr Hydref i gyd i’w weld yn fyw ar S4C, gan ddechrau gyda’r frwydr rhwng Cymru a Seland Newydd yn Stadiwm y Mileniwm. Bydd S4C hefyd yn darlledu’r gemau yn erbyn Samoa, Yr Ariannin ac Awstralia yn fyw.

Mae S4C yn darlledu gemau byw ac uchafbwyntiau’r Cwpan Heineken, Cynghrair Magners, Uwch Gynghrair Principality a’r Cwpan SWALEC drwy gydol y tymor.

Meddai Geraint Rowlands, Golygydd Cynnwys Chwaraeon S4C, “Mae cael ychwanegu’r Gwpan Eingl-Gymreig ar ei newydd wedd i amserlen S4C yn cynnig hyd yn oed fwy o rygbi byw i’r gwylwyr ac mae’n cryfhau ymroddiad llwyr y Sianel i rygbi a chwaraeon.”

Ychwanega Roger Lewis, Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, “Mae yna draddodiad hir o gystadlu brwd rhwng Cymru a Lloegr, ymysg y brwydrau hynaf yn y byd, a bydd y gystadleuaeth unwaith eto yn cynnig cyffro i’r chwaraewyr, hyfforddwyr a’r cefnogwyr.

“Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cefnogi’r gystadleuaeth o’r cychwyn gyntaf ac mae’n newyddion gwych i gefnogwyr rygbi fod S4C yn mynd i ddarlledu gemau byw ac uchafbwyntiau o’r Cwpan LV= i wylwyr yng Nghymru a thu hwnt.

“Rydym yn edrych ymlaen at dymor arall o rygbi o’r safon gorau rhwng clybiau gorau Lloegr a’r rhanbarthau Cymraeg.”

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?