S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Tendr fframwaith gwasanaeth cyflogaeth

30 Hydref 2009

Mae S4C wedi cyhoeddi y bydd yn tendro’r cytundeb i ddarparu fframwaith polisïau a gwasanaeth cyflogaeth ar gyfer y sector annibynnol.

Bydd y cytundeb tair blynedd o hyd yn sicrhau bod y cwmnïau cynhyrchu yn cydymffurfio â gofynion Telerau Masnach S4C o ran polisïau a hawliau, yn ogystal â sicrhau amodau gwaith teg a rhesymol ar draws y sector.

Cynigir y cytundeb yn sgil adolygiad o ystod a rhychwant y gwasanaethau sydd ar hyn o bryd yn cael eu cyflenwi i’r sianel gan TAC, drwy gytundeb sy’n dod i ben ddiwedd 2009. Cynhelir tendr agored yn unol â pholisïau Masnachu Teg a Chaffael S4C.

Bydd S4C yn cyhoeddi’r tendr ar y wefan cynhyrchu maes o law (s4c.co.uk/cynhyrchu), a’r bwriad yw penodi darparwr yn gynnar yn 2010.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?