S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyfansoddwr o Ddinbych yn ennill Carol Llangollen 2009

09 Tachwedd 2009

Mae’r Nadolig wedi dod yn gynnar i un gŵr o Ddinbych ar ôl i’w garol ennill cystadleuaeth flynyddol Carol Llangollen S4C.

Ynyr Llwyd, myfyriwr 21 oed, enillodd y gystadleuaeth gyda’i garol, Cariad Mam, sef hwiangerdd dyner i’r baban Iesu. Bydd Ynyr yn rhannu’r wobr o £1,000 gyda’i dad, Eifion Lloyd Jones, a chyd-ysgrifennodd y geiriau ar gyfer y garol.

Mae naws ychydig yn wahanol i’r garol, fel mae Ynyr, sy’n astudio cyfansoddi fel myfyriwr ôl-radd ym Mhrifysgol Bangor, yn esbonio.

“Dwi ’di ceisio gwneud i Cariad Mam swnio’n wahanol iawn i garol gonfensiynol drwy osod gitâr acwstig yn gyfeiliant yn y penillion ac offeryniaeth fwy cerddorfaol yn y cytganau mwy grymus.

“Nid dyma’r tro cyntaf i fi drio. Nes i drio ddwywaith yn yr ysgol, ond mae’n ychwanegu at y teimlad boddhaol o ennill fy mod wedi dal ati a dyfalbarhau.”

Bydd y garol yn cael ei pherfformio yn y cyngerdd Mil o Leisiau'r Nadolig sy’n cael ei gynnal ym Mhafiliwn Rhyngwladol Llangollen. Bydd y cyngerdd, a noddir gan y Daily Post, yn cael ei ddarlledu ar S4C dros gyfnod yr ŵyl.

Bydd llu o berfformwyr adnabyddus yn camu i’r llwyfan yn ystod y cyngerdd, gan gynnwys Mark Evans, a ddaeth i’r brig yng nghystadleuaeth Your Country Needs You, a’r soprano o Aberystwyth, Gwawr Edwards, sy’n teithio ar hyn o bryd gyda chôr Only Men Aloud! Bydd y gantores o Ynys Môn, Elin Fflur a’r côr o Feirionnydd, Côr Godre’r Aran hefyd yn perfformio. Arweinydd y gân yw Alwyn Humphreys a chyflwynwyr y noson yw Branwen Gwyn a Robin Jones.

Bydd Ynyr hefyd yn cyhoeddi CD dros gyfnod y Nadolig o’r enw ‘Rhwng Gwyn a Du’.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?